Arfon Jones

Oddi ar Wicipedia
Arfon Jones
Arfon Jones


Deiliad
Cymryd y swydd
8 Mai 2016
Rhagflaenydd Winston Roddick

Geni Mawrth 1955
Harlech, Gwynedd
Plaid wleidyddol Annibynnol
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Plaid Cymru
Priod Gwenfair
Plant dwy ferch
Cartref Gwersyllt, Wrecsam[1]
Alma mater Prifysgol Met Caerdydd
Galwedigaeth Heddwas
Gwefan [1]

Gwleidydd a chyn Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru ydy Arfon Jones (ganwyd Mawrth 1955).[2] Bu'n gynghorydd ward Gorllewin Gwersyllt yng Nghyngor Sir Wrecsam ers 2008.[3] Mae'n cyn aelod o Blaid Cymru.[4]

Magwyd Owain Arfon Jones yn ardal Ardudwy, Gwynedd a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Ym Mhrifysgol y Met, Caerdydd bu'n astudio Gwyddoniaeth Feddygol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu Arfon yn Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru tan iddo ymddeol yn 2008.[5]

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu[golygu | golygu cod]

Ym Mai 2016 cafodd Arfon ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru. Cynhaliwyd y bleidlais yr un diwrnod ag Etholiad y Cynulliad ar 5 Mai 2016. Oherwydd hyn, cododd y ganran a bleidleisiodd o 14.83% (yn 2012) i 43.78%.[6] Etholwyd aelod arall o Blaid Cymru, Dafydd Llywelyn fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros ardal Dyfed Powys. Golyga hyn fod hanner nifer y comisiynwyr yn cynrychioli Plaid Cymru a'r hanner arall yn cynrychioli'r Blaid Lafur. Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, ceir 1,454 o swyddogion, 888 o staff a 232 o swyddogion cymorth cymunedol.[7]

Yn ei anerchiad cyn yr etholiad dywedodd: “Fel Comisiynydd yr Heddlu fy mlaenoriaeth gyntaf fydd i gario allan adolygiad trwyadl o blismona crai gan fod arwyddion yn dangos fod hyd at 60% o waith yr heddlu yn waith y dylai asiantaethau fod yn ei wneud.

“Hefyd gallai arbedion ei gneud drwy dargedu adnoddau yn fwy effeithiol e.e. Gwasanaeth Cyfiawnder i’r Ifanc, lle mae angen gwell dyrannu adnoddau i ymyrryd yn gynt i ddargyfeirio ieuenctid i ffwrdd o droseddu."[8]

  • Arfon Jones (Plaid Cymru)[9]
  • David Taylor (Llafur)[9]
  • Simon Wall (UKIP)[10]
  • Matt Wright (Ceidwadwyr) [11]

Yn 2021 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll eto yn etholiad nesaf y Comisiynydd, i'w gynnal y flwyddyn honno.[12]

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, 2016
Plaid Ymgeisydd Rownd 1 % Ail rownd Cyfanswm  Pleidleisiau'r Rownd 1af   Pl'au a drosglwyddir 
Plaid Cymru Arfon Jones 67,179 31.46% 23,049 90,228
Llafur David Taylor 54,892 25.71% 9,972 64,864
Ceidwadwyr Matt Wright 42,005 19.67%
UKIP Simon Wall 25,943 12.15%
Annibynnol Julian Sandham 23,487 11.00%
Y nifer a bleidleisiodd 213,506 41.60%
Pleidleisiau a wrthodwyd
Cyfanswm y pleidleisiau
Nifer yr etholwyr a gofrestrwyd
Plaid Cymru yn cipio oddi wrth Annibynnol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. arfonjones.cymru; Archifwyd 2016-04-20 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 14 Mai 2016
  2.  Tŷ'r Cwmniau - Owain Arfon JONES. Tŷ'r Cwmniau.
  3. "Councillor Arfon Jones". Wrexham County Borough Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-29. Cyrchwyd 29 October 2014.
  4. "Cyn-Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd yn gadael Plaid Cymru". Golwg360. 2021-10-19. Cyrchwyd 2021-10-19.
  5. "Arfon Jones". LinkedIn. Cyrchwyd 29 Hydref 2014.
  6. www.bbc.co.uk; adalwyd 14 Mai 2016
  7. bbc.co.uk; gwefan Cymru Fyw; adalwyd 14 Mai 2016.
  8. choosemypcc.org.uk;[dolen marw] adalwyd 14 Mai 2016.
  9. 9.0 9.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-14. Cyrchwyd 2016-05-14.
  10. "UKIP Local". Twitter. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
  11. "- Conservative candidate for North Wales Police and Crime Commissioner announced". Rhyl Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-04. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
  12. Arfon Jones ddim am sefyll eto , Golwg360, 6 Ionawr 2021.