Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, sy’n gyfrifol am ddiffinio ffiniau llywodraeth leol a ffiniau etholaethau Senedd Cymru.
Sefydlwyd y Comisiwn yn wreiddiol fel Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru er mwyn adolygu holl ardaloedd llywodraeth leol Cymru, a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y prif ardaloedd, a gwneud y cynigion hynny i Lywodraeth Cymru er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn 2013, newidiwyd enw’r comisiwn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. [1] Cafodd ei ailenwi eto gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 i’w henw presennol, a rhoddwyd cyfrifoldeb dros adolygu ffiniau etholaethau Senedd Cymru. [2] [3]
Adolygwyd trefniadau etholiadol chwe awdurdod ar ôl rownd olaf ond un etholiadau lleol Cymru ym 1999, a gweithredwyd y newidiadau yn yr etholiadau ar 10 Mehefin 2004.
Yn 2002, adolygodd a diwygiwyd rhai o ffiniau siroedd cadwedig Cymru gan y Comisiwn hefyd.
Ym mis Chwefror 2009, cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol Gyfarwyddiadau i’r comisiwn ddechrau Adolygiad Etholiadol ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Ei nod datganedig oedd ad-drefnu cynrychiolaeth ar "... no lower than a ratio of 1 councillor to 1,750 electors".
Fel rhan o ddiwygio etholiadol yn y Senedd bydd yn creu 16 etholaeth newydd drwy baru’r 32 etholaeth San Steffan, bydd y rhain yn cael eu defnyddio yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Yn dilyn yr etholiad hwnnw bydd y Comisiwn yn cynnal adolygiad llawn o ffiniau’r Senedd ac yn gwneud hynny bob 8 mlynedd. [4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013". The National Archives (UK). Cyrchwyd 27 November 2013.
- ↑ "Senedd Cymru (Members and Elections) Bill: integrated impact assessment [HTML] | GOV.WALES". www.gov.wales (yn Saesneg). 2023-09-18. Cyrchwyd 2023-09-23.
- ↑ "About the commission | DBCC". www.ldbc.gov.wales (yn Saesneg). 2020-02-07. Cyrchwyd 2024-06-24.
- ↑ "Senedd Cymru (Members and Elections) Bill". business.senedd.wales (yn Saesneg). 2023-09-18. Cyrchwyd 2024-06-24.