Colin Lewis

Oddi ar Wicipedia
Colin Lewis
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnColin Lewis
Dyddiad geni27 Gorffennaf 1939(1939-07-27)
Dyddiad marw4 Mawrth 2022(2022-03-04) (82 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
1967-
Prydain
Prif gampau
7fed Ras Ffordd Gemau Olympaidd 1964
Baner Prydain Fawr Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd 1967 & 1978
Golygwyd ddiwethaf ar
17 Medi, 2007

Seiclwr proffesiynol Cymreig oedd Colin Lewis (27 Gorffennaf 19394 Mawrth 2022). Dechreuodd Seiclo yn 19 oed. Dewiswyd ef i gystadlu yn Milk Race 1960 a gorffenodd yn seithfed safle. Cystadleuodd drost Brydain yn Tour de L'Avenir a Phencampwriaethau'r Byd, San Sebastiien[1]. Bu'n aelod o'r un tîm ac yn rhannu ystafell â Tom Simpson cyn ei farwolaeth yn 1967 oherwydd defnydd cyffuriau[2]. Roedd Colin wedi cyfaddef yn 1966 mai'r rheswm nad oedd wedi ymuno â thîm proffesiynol Ewropeaidd ar y pryd, oedd oherwydd nad oedd eisiau urhywbeth i'w wneu'd â'r diwylliant o defnyddio cyffuriau a oedd yn bodoli ar y pryd[3]. Colin oedd y Seiclwr Cymreig ddiwethaf i reidio'r Tour de France yn 1968 tan Geraint Thomas yn 2007.

Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964. Yno, ef oedd y seiclwr Prydeinig a orffenodd yn y safle uchaf pan orffenodd Ras Ffordd Dynion Unigol mewn amser o 4:39:51.74, a gorffen yn 25ed safle. Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Jamaica, methodd ar y cyfle o ennill medal.

Trodd yn broffesiynol yn 1967, a gorffennodd y Tour de France dros dîm cenedlaethol Prydain. Ef yw'r unig seiclwr i ennill dau buddugoliaeth canlynol ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Proffesiynol yn Essex, yn 1967 a 1968.

Erbyn iddo ymddeol roedd wedi ennill 250 o fuddugoliaethau, 38 o rheiny tra'n broffesiynol, gan gynnwys y Golden Wheel Trophy a'r Linz am Rhine[1].

Roedd Colin yn benderfynnol o gario 'mlaen i ymwneud â'r byd seiclo ar iddo ymddeol, felly yn 1976 sefydlodd Deliwraeth feics Colin Lewis. Pan ddaeth yn berchennog y siop feics, gwnaethwyd ef yn reolwr Cylchffordd Seiclo Eastway yn Hackney, a gwariodd y 7 mlynedd canlynol fel Cyfarwyddwr Hyfforddi, Canolfan Rhagoriaeth y De Ddwyrain[1].

Erbyn hyn mae'n byw yn Nyfnaint gyda'i wraig Pam, ac yn llywydd Mid-Devon Cycling Club[2]. Bydd yn Hyfforddwr ar deithiau EuroCycler ar draws Sbaen.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1960
7fed Milk Race
1966
25ed Ras Ffordd Dynion Unigol, Gemau'r Gymanwlad
1967
1af Baner Prydain Fawr Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
1968
1af Baner Prydain Fawr Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
Linz am Rhine
?
Golden Wheel Trophy, ras scratch blynyddol Herne Hill

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Bywgraffiad ar wefan fisheroutdoor.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2007-09-18.
  2. 2.0 2.1 Bywgraffiad byr ar wefan eurocycler
  3. Death on the Ventoux, John Wilcockson, Cylchgrawn Cycleplus