Cnocell fraith fach
| Cnocell fraith fach Picoides minor | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Piciformes |
| Teulu: | Picidae |
| Genws: | Dryobates[*] |
| Rhywogaeth: | Dryobates minor |
| Enw deuenwol | |
| Dryobates minor
| |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides minor; yr enw Saesneg arno yw Lesser spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. minor, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Cnocell fechan yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, ond heblaw'r gwahaniaeth maint mae'n bur debyg i'r Gnocell Fraith Fwyaf. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y pen. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Fwyaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.
Nid yw'r gnocell yma mor gyffredin yng Nghymru a'r Gnocell Fraith Fwyaf, ac mae'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a'r rhywogaeth wedi diflannu o rai ardaloedd.


Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r cnocell fraith fach yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Cnocell Gila | Melanerpes uropygialis | |
| Cnocell Lewis | Melanerpes lewis | |
| Cnocell Mace | Dendrocopos macei | |
| Cnocell bengoch | Melanerpes erythrocephalus | |
| Cnocell ddu | Dryocopus martius | |
| Cnocell dorgoch | Melanerpes carolinus | |
| Cnocell flaenfelen | Melanerpes flavifrons | |
| Cnocell fraith fwyaf | Dendrocopos major | |
| Cnocell gorun coch | Melanerpes rubricapillus | |
| Cnocell gorunllwyd | Yungipicus canicapillus | |
| Cnocell gudynfelen | Melanerpes cruentatus | |
| Cnocell wen | Melanerpes candidus | |
| Cnocell y mês | Melanerpes formicivorus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.











