Chwarel Minera

Oddi ar Wicipedia
Parc gwledig y Mwynglawdd
Mathmwynglawdd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.06°N 3.12°W Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o'r hen chwarel

Mae Chwarel Minera yn un o warchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r safle yn hen chwarel calchfaen ar Afon Clywedog yn Y Mwynglawdd, Wrecsam. Mae’r parc yn fan cychwyn i lwybr Dyffryn Clywedog sydd yn dilyn cwrs yr afon heibio Pwllau plwm y Mwynglawdd i lawr at Gwaith Haearn y Bers ac ymlaen at Erddig.

Mae’r chwarel wedi bod yn gysylltiedig ag echdynnu calchfaen ers dros 200 mlynedd.

Erbyn hyn gwelir rhywogaethau prin a rhai dan fygythiad yno, yn cynnwys ystlum pedol lleiaf, ystlum hirglustac ystlum Natterer, yn ogystal ag adar sy’n trigo ar glogwyni fel hebog tramor a chigfran, a hefyd planhigion megis coedwyrdd crynddaill, crwynllys chwerw a lloer-redynen[1].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]