Parc Gwledig a Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Oddi ar Wicipedia
Tŷ injan Siafft Meadow

Parc gwledig yn nyffryn Afon Clywedog ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Parc Gwledig a Pyllau Plwm y Mwynglawdd. Mae o dan reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth y pyllau’n bwysig yn ystod y 18g. Lleolir y plwm mewn calchfaen ac oedd problemau gyda dŵr o dan y ddaear. Datryswyd y broblem gan beiriannau stêm John Wilkinson, sylfaenydd Gwaith Haearn y Bers, yn hwyr yn y 19g. Roedd o wedi copio peiriannau Boulton a Watt heb ganiatâd y cwmni, ond cododd llawer o broblemau ar ôl iddynt ddarganfod bod Wilkinson gwneud hyn, a chaewyd y pyllau.[1]

Ffurfiwyd y Minera Mining Company gan gwmni John Taylor, asiant mwyngloddio o Sir y Fflint, a phrynwyd hawliau i’r pyllau. Adeiladwyd ffos rhwng y pyllau a’r afon yn ardal Melin y Nant, Coedpoeth i gael gwared o ddŵr y pyllau, ac adeiladwyd rheilffordd, ac ailddechreuodd y cloddio ym 1852. Yn anffodus, syrthiodd y prisiau o blwm a sinc – sydd hefyd wedi cael ei gloddio yno – ac ym 1914 caewyd y pyllau eto.

Gadawyd tomennyd mawr gan y diwydiant; cymerwyd graean o’r safle hyd at y 50au ond roedd plwm, sinc a chadmium dal yno, ac yn peryglus. Dechreuodd gwaith i greu safle diogel ym 1988, a datgelwyd hanes y diwydiant yn ystod y proses. Ailagrëwyd y safle o gwmpas Siafft Taylor a Siafft Meadow, yn cynnwys copïau y peiriannau gwreiddiol.[2]

Mae Chwarel Minera yn un o warchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Cyngor Wrecsam". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-10. Cyrchwyd 2019-04-04.
  2. Gwefan Cyngor Wrecsam

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan swyddogol