Llwybr Dyffryn Clywedog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Hydref yn Nyffryn Clywedog

Mae Llwybr Dyffryn Clywedog yn nadreddu o byllau plwm y Mwynglawdd at Felin y Brenin, Wrecsam.

Hanes y Dyffryn[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y 18g, roedd 17 melin amrywiol yn y dyffryn – melinau i baratoi brethyn, i falu ŷd a bragu, a melinau papur, ac olwynion yn gweithio'r fegin yng ngwaith haearn y Bers, ac i bwmpio dŵr o'r pyllau plwm. Ond cymerodd pŵer stêm drosodd yn y 19g, ac yn raddol, symudodd diwydiant o'r dyffryn.[1]

Y Mwynglawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llwbr yn dechrau yn y Mwynglawdd, sydd yn Barc Gwledig erbyn hyn, sydd yn cynnwys amgueddfa.[2] Roedd y calchfaen yno'n llawn o fwynau metel, yn arbennig plwm. Rhwng 1819 a 1919 archwiliwyd yr ardal gan dros 30 o gwmnïau am blwm, gan lunio 50 siafft, a thynnu plwm a oedd yn werth dros £4 miliwn. Crewyd sianeli draenio, ac mae'r dyfnaf ohonynt, Boncen Ddydd Ddofn, yn ymddangos yn ymyl Melin y Nant. Mae'n debyg bod y Rhufeiniaid wedi ymchwilio'r tir cyn hyn; mae enw Saesneg y Mwynglawdd – Minera – yn tarddu o'r Lladin.[3]

Melin y Nant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llwybr yn arwain i lawr y nant at Felin y Nant. Mae'n debyg mai ar gyfer pannu gwlân oedd y felin wreiddiol, ond adeiladwyd melin ŷd ar y safle ym 1832. Ceir ystlum pedol lleiaf yn byw mewn twnnel o dan y ffordd a oedd yn draenio dŵr o'r olwyn bwll yn ôl i'r afon ac ystlum pipistrelle llai yn clwydo yn y to. Y tu hwnt i'r felin ceir llwybr yn dirwyn drwy goed Plas Power sy'n rhan o stad Plas Power. Mae'r coetir yn cynnwys coed brasddeiliog a chonifferaidd, gan gynnwys y ffawydden, yr onnen, y dderwen a'r gollen. Mae'r afon yn llifo dros Gored Coed Fawr a adeiladwyd, mae'n debyg, gan deulu Wilkinson o'r Bers i gyflenwi dŵr i bwll glo bychan ar draws y ffordd. Crëwyd Caeau Weir i reoli llif y dŵr i waith dur Y Bers. Gwelir mwyeilch brown tywyll a gwyn yn y dyffryn, ac mae brithyll a llysywod yn ffynnu o dan y Gored Fawr.[1]. Erbyn hyn mae Melin y Nant wedi dod yn Ganolfan Ymwelwyr, sy'n gwerthu byrbrydau. Mae maes parcio, maes picnic a chasgliad diddorol o foch pren mewn hen dwlc mochyn.[4]

Y Bers[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae safle Gwaith y Bers ar lan ogleddol yr afon, ac fe'i hadeiladwyd gan John 'Iron Mad' Wilkinson. Heibio'r A483 mae Canolfan Treftadaeth y Bers a hen safle Melin Bapur Twrci.[5]

Melin Puleston, Erddig a Melin y Brenin[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl pontydd y rheilffordd a'r prif ffordd rhwng Wrecsam a Rhostyllen saif Melin Puleston, sydd erbyn hyn yn ganolfan addysgiadol. Mae'r afon yn ymlwybro trwy ffermdir sydd yn rhan o Stad Erddig. Erbyn hyn mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen y stad. Mae'r llwybr yn mynd trwy coetir y stad hyd at [[Melin y Brenin| a gafodd y monopoli i falu blawd yn Wrecsam am dros 600 mlynedd..[1]

Galeri lluniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 taflen Llwybr Dyffryn Clywedog cyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Wrecsam
  2. Gwefan Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
  3. Taflen Llwybr Dyffryn Clywedog; cyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Wrecsam
  4. Gwefan Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
  5. Taflen Llwybr Dyffryn Clywedog cyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Wrecsam

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]