Neidio i'r cynnwys

Charles James Apperley

Oddi ar Wicipedia
Charles James Apperley
FfugenwNimrod Edit this on Wikidata
Ganwyd22 Gorffennaf 1778 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1843 Edit this on Wikidata
Llundain Fwyaf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Rugby Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Roedd Charles James Apperley (Nimrod) (22 Gorffennaf, 177819 Mai, 1843) yn awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela a rasio ceffylau Cymreig.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Apperley ym Mhlas Gronw, ger Wrecsam yn ail fab i Thomas Apperley ac Anne Wynn ei wraig. Roedd y clerigwr, hynafiaethydd, a bardd William Wynn, Maes y Neuadd yn daid mamol iddo.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Rugby.[3]

Ymunodd fel coronet (dirprwy is-gapten) yng nghatrawd ei berthynas Syr Watkin Williams Wynn yn y Light Dragoons ym 1798. Wedi ei ddyrchafu yn is-gapten a thâl-feistr, ymadawodd a'r fyddin pan gafodd ei gatrawd ei ddiddymu ym 1800.

Ym 1805 ymunodd a chatrawd Iwmyn Swydd Amwythig ac ym 1810 ymunodd a Milisia Swydd Nottingham, gan roi'r gorau i'w yrfa filwrol ym 1812.

Ym 1801 priododd Elizabeth chwaer William Wynne, Peniarth, Llanegryn. Cawsant tri mab a phedair merch. Bu'r teulu yn symud rhwng gwahanol dai yng Nghymru a chanolbarth Lloegr, yn bennaf oherwydd diffyg arian. Roedd Apperley yn bennaf ddibynnol ar garedigrwydd teulu ei wraig am arian. Pan fu ganddo arian roedd yn dueddol o'i afradu trwy fynd ar hyd a lled y wlad i gyfarfodydd hela ac i fynychu rasys ceffylau. Byddai'n prynu a gwerthu ceffylau ac yn eu rhoi i gystadlu mewn rasys. Byddai'n absennol o gartref am gyfnodau maith yn dilyn ei hoffter o geffylau. Wedi cael llond bol o'i absenoldebau hir ac aml a'i alwadau ariannol ar ei theulu fe wnaeth Mrs Apperley ymadael a'i gŵr ac aeth hi a'i phlant i fyw i Hampton, Swydd Middlesex.

Newyddiadurwr chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Wedi ymadawiad ei wraig symudodd Apperley i Lundain ym 1821 gan gael swydd gan y Sporting Magazine fel gohebydd chwaraeon.[4] Roedd y swydd yn ei ganiatáu iddo i barhau a'i hoffter o rasio a hela efo ceffylau gan gael ei dalu £1,500 y flwyddyn i ysgrifennu erthyglau amdanynt. O 1822 ymlaen byddai'n ysgrifennu ei erthyglau o dan y ffugenw Nimrod. Roedd Nimrod yn gymeriad Beiblaidd, yn ŵyr i Noa sy'n cael ei ddisgrifio yn Genesis 10:9 fel "heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd",[5] enw addas, felly, i un oedd yn gohebu am hela.

Wedi marwolaeth perchennog y Sporting Magazine ym 1827 bu anghytundeb rhwng Apperley a pherchennog newydd y cylchgrawn pan wrthodwyd cais am iddo dderbyn codiad cyflog. Ymadawodd Apperley a'r cylchgrawn ym 1829. Arweiniodd ei ymadawiad o'r cylchgrawn at anghydfod cyfreithiol parthed arian oedd wedi ei fenthyg iddo gan y cylchgrawn. Ffodd i Galais, Ffrainc ym 1831 rhag cael ei daflu i garchar y dyledwyr. Wedi i'r bygythiad o wynebu'r carchar cael ei godi parhaodd i fyw yn Ffrainc gan ei fod yn rhatach byw yno nag yn Lloegr. Wedi rhoi'r gorau i weithio i'r Sporting Magazine dechreuodd cyfrannu erthyglau i nifer o wahanol bapurau fel gohebydd ar ei liwt ei hun.

Bu nifer o'i erthyglau yn cael eu hysgrifennu fel cyfresau a chyhoeddwyd rhai ohonynt ar ffurf lyfrau wedyn:[6]

  • Nimrod's Hunting Tours (1835)
  • The Chace, the Turf and the Road (1837)
  • Memoirs of the Life of John Mytton (1837)
  • The Life of a Sportsman (nofel 1842).
  • Hunting Reminiscences (1842)

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Cafodd Apperley damwain wrth farchogaeth yn hwyr ym 1842 gan ei adel efo anafiadau corfforol difrifol. Aeth i Lundain i dderbyn triniaeth feddygol, gan farw yno o beritonitis (llid ar yr haen denau o feinwe sy'n leinio tu mewn i'r abdomen o'r enw'r peritonewm) [7]. Roedd yn 64 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "APPERLEY, CHARLES JAMES (1779 - 1843), awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela, rhedegfeydd ceffylau, etc., dan y ffugenw 'Nimrod'. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-17.
  2. "WYNN, WILLIAM (1709 - 1760), clerigwr, hynafiaethydd, a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-17.
  3. 3.0 3.1 "Apperley, Charles James [pseud. Nimrod] (1778–1843), writer on sport | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-594. Cyrchwyd 2019-09-17.
  4. Birch, Dinah (2009-01-01), Birch, Dinah, ed., "Apperley, Charles James", The Oxford Companion to English Literature (Oxford University Press), doi:10.1093/acref/9780192806871.001.0001/acref-9780192806871-e-8351, ISBN 9780192806871, https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/acref/9780192806871.001.0001/acref-9780192806871-e-8351, adalwyd 2019-09-17
  5. Bible Gateway Genesis 10:9 ym Meibl William Morgan adalwyd 17 Medi 2019
  6. Riches, Christopher a Cox, Michael;A dictionary of writers and their works; 1948-2009, Oxford University Press ISBN 9780191782947, OCLC 902647194 adalwyd 17 Medi 2019
  7. "Peritonitis". nhs.uk. 2017-12-19. Cyrchwyd 2019-09-17.