Ceunant Twymyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ceunant Twymyn
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Afon Twymyn gorge - geograph.org.uk - 73501.jpg
Ceunant Twymyn
Ceunant Twymyn is located in Cymru
O fewn Cymru
Ardal ymchwil Powys
Cyfesurynnau OS SN8714894716
Cyfesurynnau daearyddol 52°32′19″N 3°39′55″W / 52.538572°N 3.6653461°W / 52.538572; -3.6653461Cyfesurynnau: 52°32′19″N 3°39′55″W / 52.538572°N 3.6653461°W / 52.538572; -3.6653461
Diddordeb Daeareg
Arwynebedd 106.56 ha
Cofrestrwyd 02 Chwefror 1999
ID 224
Côd 32WCO

Mae Ceunant Twymyn, ar Afon Twymyn ger Dylife yn ardal Maldwyn, Powys, wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 02 Chwefror 1999 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 106.56 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Mae Afon Twymyn yn tarddu yn y bryniau tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bumlumon ac yn llifo i Afon Dyfi ger Glantwymyn. Wrth lifo o'r bryniau mae'r afon yn ffurfio ceunant lle ceir hen weithfeydd plwm Dylife: dyma safle Ceunant Twymyn.

Math o safle[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynodwyd y safle oherwydd agweddau daearegol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion. Ceir dau fath o safle ddaearegol: rhai a ddaeth i’r wyneb drwy gloddio dyn a safleoedd naturiol bregus yn cynnwys ffurfiau tirweddol, haen bach o waddod neu ogof arbennig.

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]