Afon Twymyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Twymyn
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 28 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.6333°N 3.7333°W Edit this on Wikidata

Afon ym Maldwyn, Powys yw Afon Twymyn. Mae'n tarddu yn y bryniau tua 5 milltir i'r goggledd-ddwyrain o Bumlumon ac yn llifo i Afon Dyfi ger Glantwymyn.

Ceunant afon Twymyn, Dylife.

Wrth lifo o'r bryniau mae'r afon yn ffurfio ceunant lle ceir hen weithfeydd plwm Dylife. Mae'n llifo dan Bont Dolgadfan ac yn llifo ar gwrs gogleddol i'w chymer ag Afon Iaen ger Llanbrynmair.

Lleolir adfeilion Castell Tafolwern, a adwaenir fel 'Yr Hen Domen' heddiw, ar gymer afonydd Twymyn ac Iaen, ar gyrion Llanbrynmair.

Mae'n troi i gyfeiriad y gorllewin wedyn ac yn llifo i afon Dyfi tua hanner milltir i'r gogledd o Lantwymyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.