Castell Whittington

Oddi ar Wicipedia
Castell Whittington
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8734°N 3.00373°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ3261531148 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Castell yn Whittington, Swydd Amwythig, Lloegr, yw Castell Whittington. Perchnogion a rheolwyr y castell yw Cronfa Warchodaeth Castell Whittington.[1] Roedd yn gastell mwnt a beili yn wreiddiol, ond fe'i disodlwyd yn y 13g gan un arall gydag adeiladau yn amgylchu iard. Mae’r castell yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, nid ymhell o gaer hynafol Croesoswallt.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar ôl gwneud arolygiad archeologol o’r safle, darganfuodd Peter Brown a Peter King bod gan feili allanol y castell dwy ardd wedi’u hamgylchynu gan ddŵr yn ystod y 14eg. Crewyd yr ardd gan deulu Fitzwarin.[3][4]

Mae Whittington ar ochr dwyreiniol – Seisnig – Clawdd Offa. Ym 1138 daeth y safle’n gaer i William Peverel, a oedd yn cefnogi’r Ymerodres Matilda, merch Harri I, yn erbyn y Brenin Steffan, nai Harri I. Meddiannwyd Whittington gan Madog ap Maredudd, brenin Powys, ac fe ddaeth yn rhan o’r deyrnas honno hyd at farwolaeth Madog ym 1160.[5]

Rhoddwyd y castell i Roger de Powys gan Harri II ym 1165, gyda phres i’w drwsio ym 1173[6]. Dilynwyd Roger gan Meurig ac wedyn Werennoc. Hawlodd Fulk III FitzWarin y castell hefyd, a gwrthryfelodd o’n erbyn Brenin John o’i herwydd, a rhoddwyd y castell iddo fo. Cedwyd y castell gan yr un teulu hyd at 1420. Dinistrwyd y castell gan Llywelyn ab Iorwerth ym 1223. Rhoddwyd y castell yn ôl i’r Fitzwariniaid, ac ail-adeiladwyd ac estynnwyd y castell gyda cherrig[7]. Enillwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd ym 1267.

Ar ôl gorchfygiad Llywelyn ap Gruffudd ym 1282, daeth y castell yn gartref i’r teulu Fitzwarin. Wedi marwolaeth Fulk VII ym 1349, roedd arglwyddi’r castell fel arfer yn ifanc ac yn absennol. Roedd rhywfaint o waith trwsio ym 1402. Dinistriwyd, er nad cipiwyd, y castell ym 1404 yn ystod rwrthryfel Owain Glyndŵr.[8] Daeth y teulu Fitzwarin i ben ym 1420, a daeth Elizabeth, chwaer Fulk XI, perchennog y castell.

Cipiwyd y castell gan William Fitzwaryn ym 1422 a Richard Laken, ond daeth y castell yn ôl i Arglwydd Clinton, gŵr Elizabeth Fitzwarin[9]. Priododd eu merch Thomasia â William Bourghchier, a daeth eu ŵyr John yn Iarll cyntaf Caerfaddon. Cyfnewidwyd y castell gan ei fab John, ail Iarll Caerfaddon am stadau agosach i gartref y teulu yn Nyfnaint.[10]

Dywedwyd bod rhai o adeiladau’r castell wedi dirywio, ac mae’n debyg bod neb wedi byw ynddo eto. Roedd nifer o berchnogion; William Albany a’i disgynyddion, y teulu Lloyd o Aston, ger Croesoswallt, sy dal yn berchen i’r castell. Llogwyd y porthdy ym 1632, gyda chaniatád i gymryd cerrig o’r castell. Llogwyd y porthdy eto ym 1673 i Thomas Lloyd. Tua 1760, syrthiodd un o’r tyrrau i ffos y castell. Defnyddiwyd rhai o gerrig y castell i adeiladu ffyrdd.

Atgyweiriad[golygu | golygu cod]

Mae’r castell yn wynebu’r hen ffordd A5. Atgyweiriwyd y castell gan William Lloyd tua 1808, ac wedi ei logi fel ffermdy, ac roedd pobl yn byw yno hyd at y 1990au.[11].</ref> Perchnogion presennol y castell yw Yddiriedolaeth Cadwraeth Castell Whittington, comuned y ffurfiwyd yn Rhagfyr 1998. Cwblhawyd prosiect £1.5 miliwn yn ddiweddar ganddynt.[12].

Yn flynyddol, mae grŵp Historia Normannis yn dod i’r castell i ail-greu brwydrau lleol ar amserau addas y flwyddyn.[13]

Chwedlau[golygu | golygu cod]

Mae chwedl ynglŷn â’r Cwpan Marian; Mae rhai’n meddwl y Greal Sanctaidd ydy o. Dywedir bod Syr Fulk Fitzwarin yw un o warchodwyr y Greal a chedwir y Greal mewn capel preifat y castell pan oedd Syr Fulk yno.[14]

Dywedir hefyd bod y castell oedd yn rhan o stad Cymro, Tudur Trefor ym Maelor Saesneg a Maelor Gymraeg. Credir bod ei dad, Rhys Sais, oedd yn perchen Maelor Saesneg, ond efallai nid Maelor Gymraeg.[15][16]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Whittington Castle and the families of Bleddyn ap Cynfyn, Peverel, Maminot, Powys and Fitz Warin gan P.M. Remfry; ISBN 1-899376-80-1.
  • The Castles and Moated Mansions of Shropshire; ISBN 1-871731-00-3.
  • Castles of Shropshire (Medieval Castles of England); ISBN 0-903802-39-2.
  • History of Shropshire (Darwen County History) ISBN 1-86077-036-3.
  • Medieval Fortifications (The Archeology of Medieval Britain); ISBN -7185-1392-4.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Whittington Castle Preservation Trust" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2022.
  2. Adrian Pettifer (1995). English Castles: A Guide by Counties (yn Saesneg). Boydell Press. tt. 218–219. ISBN 9780851157825.
  3. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family' gan Brown, King a Remfry; Shropshire Archaeology and History LXXIX (2004), tt. 106–127
  4. ’Escape from castle stenches’ gan Gill Guest, The Times, 25 Ionawr 2003
  5. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family' gan Brown, King a Remfry; Shropshire Archaeology and History LXXIX (2004), tt. 107–108
  6. Gwefan Cestyll Cymru
  7. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family' gan Brown, King a Remfry; Shropshire Archaeology and History LXXIX (2004)
  8. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family' gan Brown, King a Remfry; Shropshire Archaeology and History LXXIX (2004), tt. 106–127
  9. Wikishire.co.uk
  10. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family' gan Brown, King a Remfry; Shropshire Archaeology and History LXXIX (2004), tt. 106–127
  11. Brown, King and Remfry, tud. 120–122
  12. Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Whittington
  13. Gwefan Normannis
  14. [1] Gwefan britannia.com]
  15. Brown, P.; King, P. & Remfry, P. 'Whittington Castle: the marcher fortress of the Fitz Warin family', Shropshire Archaeology and History LXXIX
  16. Biograffiad Tudor Trevor, Arglwydd Whittington Archifwyd 2007-07-07 yn y Peiriant Wayback..