Neidio i'r cynnwys

Castell Paun (castell)

Oddi ar Wicipedia
Castell Paun
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.10738°N 3.21859°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO1662446153 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwRD006 Edit this on Wikidata

Castell yng nghymuned Castell-paen, Powys, yw Castell Paun (Saesneg: Painscastle).

Daw'r enw Castell Paun o enw'r arglwydd Normanaidd Pain Fitz John, a adeiladodd y castell cyntaf yma yn hanner cyntaf y 12g. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1137, a daeth ardal Elfael i feddiant Madog ab Idnerth. Cipiwyd y castell gan William de Braose tua 1195. Ymosodwyd ar y castell gan beiriannau rhyfel[1] nerthol byddin Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn 1196, ac ildiodd y castell iddo; o fewn wythnosau, gwnaed cytundeb heddwch. Yn 1198 gosododd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys warchae ar y castell ond gorchfgwyd ef gan fyddin dan Geoffrey fitz Peter a lladdwyd oddeutu 3,000 o Gymry.[2]

Meddianwyd y castell gan Iorwerth Clud yn 1215. Llosgwyd y castell gan y Cynry yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn ap Iorwerth yn y cylch. Fe'i hail-adeiladwyd fel castell o gerrig gan y brenin Harri III a Hubert de Burgh yn 1231. Yn 1233 daeth y castell i feddiant Ralph Tosny, a bu ym meddiant y teulu hyd nes i Llywelyn ap Gruffudd ei gipio yn 1265. Ail-adeiladwyd y castell gan Ralph Tosny arall yn 1276.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • P.M. Remfry, Painscastle, 1066 to 1405

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gwefan saesneg Castles of Wales
  2. ↑ Reference Wales; golygydd John May; Gwasg prifysgol Cymru; 1994
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.