Madryn (stâd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Castell Madryn)
Jump to navigation Jump to search
Madryn
Castell Madrun, Buan NLW3361615.jpg
Math ystâd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.895094°N 4.55011°W Edit this on Wikidata

Stâd ar benrhyn Llŷn oedd yn arfer bod ymhlith y pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Madryn. Roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth a bywyd cymdeithasol Llŷn am gyfnod hir.

Castell Madryn: y wersyll carafanau.
Castell Madryn tua 1870

Safai'r stâd i'r de o Forfa Nefyn ac i'r gogledd-ddwyrain o fryn Carn Fadryn, yng nghymuned Buan. Castell Madryn oedd enw'r plasdy. Y mwyaf adnabyddus o berchenogion Madryn oedd Syr Love Jones-Parry, fu a rhan mewn sefydlu Y Wladfa ym Mhatagonia. Enwyd Porth Madryn yno ar ôl ei stad.

Erbyn hyn mae Castell Madryn wedi ei chwalu, a'r tir o'i amgylch yn wersyll carafannau. Erys y gatws, lle ganed y bardd John Owen Williams (Pedrog).

Cyfeiriadaeu[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Trebor Evans Teulu Madryn' (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)