Madryn (santes)

Oddi ar Wicipedia
Madryn
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farwCernyw Edit this on Wikidata
Man preswylCarn Fadryn, Trawsfynydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl9 Ebrill Edit this on Wikidata
TadGwerthefyr Edit this on Wikidata
PriodYnyr Gwent Edit this on Wikidata
PlantIddon, Caradog Freichfras Edit this on Wikidata

Santes o'r 5g oedd Madryn neu Madrun, Lladin: Materiana).

Teulu[golygu | golygu cod]

Madryn oedd un o ferched Gwerthefyr (Vortimer), mab Gwrtheyrn. Pan ffurfiodd ei thaid gynghrair gyda'r Sacsoniaid trowyd nifer o benaethiaid Celtaidd yn ei erbyn, gan gynnwys Gwrthefyr. Lladdwyd ei thad yn 457. Priododd Madryn ag Ynyr Gwent, pennaeth Gwent a chawsant fab, Ceidio. Bu Madryn gyda'i thaid pan gorfodwyd ef i ffoi i gaer ger yr Eifl, ger Cwm Nant Gwrtheyrn yn Llŷn.[1] . Llosgodd ei elynion y gaer yn 464. Bu farw Gwrtheyrn ond llwyddodd Madryn i ffoi i Garn Fadryn gyda'i phlentyn hynaf, Ceidio, yn ei breichiau. Cafodd Madryn ac Ynyr blant eraill: Iddon, Tegern a Teigiwg. Priododd wedyn â Gwgon o deulu Ceredig a chafodd fab, Cedwyn, ganddo.[2]

Cysylltir Madryn, felly, â Gwynedd, Gwent, cartref ei gŵr cyntaf, Ceredigion, cartref ei ail ŵr, a Chernyw.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Dwedir iddi teithio gyda'i morwyn (neu ei chwaer) Anhun hyd nes iddynt sefydlu cymuned Gristnogol ger Trawsfynydd, Meirionnydd. Dywedir iddynt, ar eu taith, orffwys mewn llecyn arbennig a syrthio i gysgu. Cawsant yr un breuddwyd: gorchymyn i godi cymuned yno, yn y fan a'r lle. Gwnaed hynny a saif Eglwys y Santes Fadryn ar y llecyn heddiw.[2] Mae adeilad presennol yr eglwys yn dyddio o'r 16g yn bennaf.[3]

Tua diwedd ei bywyd aeth i Minster yng Nghernyw ble sefydlodd gymuned Cristnogol arall. Mae eglwys a ffynnon ger Tintagel wedi cysegru iddi, hefyd. Bu farw ym Minster ger Boscastle, Cernyw.

Gwyliau:

  • 9 Ebrill (gyda Cheidio, Minster; Materiana, Tintagel)
  • 9 Mehefin (Trawsfynydd)

Llefydd sy'n dwyn enw'r santes[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys y Santes Fadryn, Trawsfynydd
52°54′10″N 3°55′28″W / 52.902705°N 3.92438°W / 52.902705; -3.92438 Trawsfynydd Q29484435
2 St Materiana's Church
50°40′59″N 4°40′34″W / 50.683°N 4.676°W / 50.683; -4.676 Pluw Ragdinas ha Talkarn Q5470411
3 Tintagel Parish Church
50°39′47″N 4°45′35″W / 50.663°N 4.7597°W / 50.663; -4.7597 Trevena Q7808487
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Spencer, R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  2. 2.0 2.1 The Book of Welsh Saints, tud. 344.
  3. Esgobaeth Bangor[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Catagori: Hanes Cymru Catagori: Menywod mewn Hanes