Ynyr Gwent
Jump to navigation
Jump to search
Brenin Gwent oedd Ynyr Gwent (bl. 5g), yn ôl traddodiad. Roedd yn dad i nifer o blant yn cynnwys yr arwr Iddon.
Cymreigiad o'r enw personol Lladin Honorius yw 'Ynyr'. Awgryma Rachel Bromwich ddylanwad enw'r ymerawdwr Rhufeinig Honorius (384-423) ar yr enw 'Ynyr Gwent'.[1] Nid dyma'r unig enghraifft o'r cyfnod ôl-Rufeinig o gael enw teyrnas fel epithet: cymharer Maelgwn Gwynedd ac Emyr Llydaw.
Ym Muchedd Beuno, dywedir fod Ynyr yn un o ddisgyblion Sant Beuno ac iddo roi tir i'r sant yn Ewias. Cyfeiria'r bardd Gwalchmai ap Meilyr (12g) at Went fel "gwlad Ynyr".[2]
Gwraig Ynyr oedd Madryn, ferch Gwrthefyr fab Gwrtheyrn (a gofir fel nawdd santes Trawsfynydd). Mae plant Ynyr yn cynnwys:[2]
- Caradog (cyfeiriad yn Vita Tatheus)
- Digwg (merch, dywedir i Sant Beuno ei hatgyfodi ar ôl iddi gael ei lladd yn Arfon)
- Iddon (ei fab gan Fadryn; cyfeirir ato mewn un o'r Trioedd)