Castell Cwm Aron

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Cwm Aron
Castell Cwm Aron
Castell Cwm Aron (Cymaron) yng Nghymuned Llanddewi Ystradenni heddiw.

Castell mwnt a beili yng nghantref Maelienydd, rhwng Gwy a Hafren (Sir Faesyfed heddiw) yw Castell Cwm Aron neu Gastell Cymaron. Fe'i hadeiladwyd gan Ranulph de Mortimer (m. 1104), un o arglwyddi Anglo-Normanaidd y Mers a bu'n fan brwydro enbyd rhwng teulu'r Mortimer a'r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac arglwyddi Cymreig eraill am dros sawl canrif. Fe'i codwyd o bren ac mae ffermdy modern wedi'i godi dros ran helaeth ohono bellach. Dirywiodd yr adeilad yn y 13g a chanolbwyntiodd yr Anglo-Normaniaid ar Castell Tinboeth a Chefnllys yn ei le.[1]

Ceir olion offer gwarchae ger y castell, sy'n dystiolaeth i sawl gwarchae gan Fyddin Cymru gymryd lle, yn eu hymgais i ailfeddiannu'r castell a'r tiroedd cyfagos. Ymddengys i'r gwarchae olaf fod yn 1215 gan y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth fod yn ergyd angheuol i'r castell, a dirywiodd wedi hynny.


Lleoliad Maelienydd

Atgyfnerthwyd y castell yn 1144 gan fab Ranulph, sef Hugh I de Mortemer, ond prif gartre'r teulu oedd Castell Wigmore, Lloegr - 15 milltir o Gastell Cwm Aron, ond ni chwaraeodd Castell Cwm Aron ran flaenllaw yn ymgyrchoedd yr Anglo-Normaniaid i feddiannu Cymru.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Anrhegwyd Ranulph de Mortimer (a elwir yn 'Roger Mortimer', yn ddiweddarach) o Normandi gyda llawer o diroedd yn Henffordd a'r Amwythig gan Wiliam I, brenin Lloegr (glasenw: "Gwilym y Gorchfygwr"), rywbryd cyn 1086.[2][3]

Yn y 1090au roedd llawer o frwydro am bwer rhwng Normandi a Lloegr; newidiodd Ranulph ei deyrngarwch sawl tro, ond yn y diwedd, ochrodd gyda dug Normandi.[4] Yn nhiroedd y Mers yn 1093, y newidiodd ei deyrngarwch at y Normaniaid, gan ochri gyda Roger de Montgomerie, iarll 1af yr Amwythig, Ralph Tosny o Gastell Cliford, Philip de Braose oedd wedi meddiannu rhannau o Bencraig (Saesneg: Old Radnor). Ymosododd y tri ar Faesyfed (Powys heddiw) a Chynllibwg, rhwng Gwy a Hafren. Aethant ati i adeiladu nifer o gestyll er mwyn dal eu gafael yn y tiroedd hyn roeddent wedi'i ddwyn.[5][6] Ymhlith y cestyll hyn roedd Castell Dinieithon (ger Llandrindod, heddiw) a Chastell Cwm Aron, ym Meaelienydd - rhwng Llanbister a Llangynllo, Powys.[7] Llwyddodd teuluoedd y gwŷr hyn ddal eu gafael yn y tiroedd am tua can mlynedd pan gododd y Cymry lleol yn eu herbyn yn 1148.[6]

Gwarchaeon 1195 ac 1215[golygu | golygu cod y dudalen]

Noda'r Brutiau i'r castell gael ei atgyweirio yn 1144, yn dilyn cryn ymladd ym Maelienydd. Yn 1179 ceir cofnod yn y Pipe Rolls o daliadau eraill i atgyfnerthu'r castell, yn dilyn carcharu Roger Mortimer am ladd Cadwallon ap Madog (bu farw 22 Medi 1179), brenin Maelienydd, a oedd wedi'i gymryd dan ofal brenin Lloegr. Trosglwyddwyd y castell i ofal Ralph le Poer, Siryf Henffordd.

Yn 1195 ceir cofnod o daliadau pellach, a nodir hefyd i Abad Pershore gael ei ddirwyo gan frenin Lloegr am wrthod rhyddhau ei farchogion ar gyfer y fyddin Saesnig yng Nghastell Cwm Aron, sy'n dystiolaeth fod byddin o Anglo-Normaniaid wedi ymgasglu yno. Sefydlwyd y gwarchae gan Feibion Cadwallon. Cipiodd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth y castell, fwy na thebyg yn dilyn gwarchae.

Ym Mai 1215 ymosododd Llywelyn ap Iorwerth ar dref Amwythig gan ei gipio heb lawer o drafferth; oddi yno aeth yn ei flaen i gipio Trefaldwyn ac yna Castell Kamhawn (Cymaron).[8] Ceir un cofnod o hyn, yn Nhestun-D yr Annales Cambriae a gedwir yn Exeter MS 3514 (a sgwennwyd c.1285), ac ni welodd olau dydd hyd at 1939; fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946.

Gwelir olion peiriannau gwarchae ychydig i'r de o'r castell, ac mae'r ardal hon hefyd (ers 1991) wedi'u cofrestru fel ardal gadwraethol. Hyd at 2018 ni fu unrhyw ymchwilio archaeolegol o'r castell na'r ardal yma. Yn 1858 cofnododd Jonathan Williams i belen canon (neu fagnel) gael ei ganfod yma.[9] Mewn llun o'r awyr a gymerwyd yn 1990 gwelir dau fwnt a leolir i'r de o'r castell ar gopa bryncyn bychan. Mae'r castell ei hun 80m o'r naill fwnt a 130m o'r llall, ac felly o fewn tafliad carreg (neu belen canon).[10]

Mannau eraill yn yr un cyfnod[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1195, yn dilyn llwyddiant Llywelyn a'r fyddin Gymreig i gipio Castell Cwm Aron, cafwyd cryn lwyddiant yn ne Cymru gyda'r Arglwydd Rhys (113228 Ebrill 1197) tywysog teyrnas Deheubarth yn cymryd Castell Colwyn (SO 108540) a Chastell Maesyfed gan ei losgi'n ulw ac yr un diwrnod cafwyd brwydr enbyd rhwng yr Arglwydd Rhys a Roger Mortimer (a'i gyfaill Hugh de Sais) ychydig y tu allan i bentref Maesyfed. Y Cymry oedd yn fuddugol.

Erbyn 1202 roedd yr Arglwydd Rhys wedi cymryd Castell Gwerthrynion, un arall o gestyll Roger Mortimer.

Yn Rhagfyr 1215 gwelwyd byddin Llywelyn Fawr yn cipio Castell Cwm Aron.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan coflein.gov.uk; adalwyd 29 Gorffennaf 2018.
  2. castles99.ukprint.com; Wigmore Castle
  3. Ranulph de Mortimer ar y Bywgraffiadur Arlein; gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  4. Barlow, t. 324
  5. Davies, N.The Isles: A History (ISBN 0195134427), 1999, p. 281
  6. 6.0 6.1 British Archaeology, no 34, Mai 1998 (ISSN 1357-4442): Paul Remfry. Discovering the lost kingdom of Radnor
  7. http://www.castles99.ukprint.com/Essays/cymaron.html, http://www.gatehouse-gazetteer.info/Welshsites/845.html
  8. The Sieges of Castell Cymaron, adroddiad gan Gildas Research ar gyfer Llywodraeth Cymru, dyddiedig Tachwedd 2013; awdur - Scott Lloyd. Adalwyd 29 Gorffennaf 2018.
  9. Jonathan Williams, History of Radnorshire, Archaeologia Cambrensis (1858), 506
  10. Y Comisiwn Brenhinol dros Henion... C62231, t. 1.