Carnedd y Filiast (Glyderau)
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 821 metr |
| Cyfesurynnau | 53.14387°N 4.06414°W |
| Cod OS | SH6204162739 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 76 metr |
| Rhiant gopa | Elidir Fawr |
| Cadwyn fynydd | Glyderau |
![]() | |
Mynydd yn y Glyderau yng ngogledd Eryri yng Ngwynedd yw Carnedd y Filiast. Ef yw copa mwyaf gogleddol y Glyderau.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Saif Carnedd y Filiast ar ben gogleddol y grib sy'n arwain o'r Garn tua'r gogledd dros Foel Goch a Mynydd Perfedd. I'r de-orllewin o'r copa mae cronfa ddŵr Marchlyn Mawr, ac i'r dwyrain mae Cwm Graianog yn arwain i lawr i Nant Ffrancon. Ar lechweddau ei gopa gogleddol, Y Fronllwyd, mae Chwarel y Penrhyn.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r enw yn tarddu o lên gwerin. Mae enwau henebion cynhanesyddol sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llety'r Filiast (Y Gogarth, Llandudno), Llety'r Filiast (ger Rowen), Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. [1] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.
