Cara Braia

Oddi ar Wicipedia
Cara Braia
Enw
(ar enedigaeth)
Cara Louise Braia
Ganwyd (1992-06-04) 4 Mehefin 1992 (31 oed)
Bangor, Gwynedd
TarddiadCriccieth, Gwynedd
Math o GerddoriaethPop, Rap, RNB, HipHop, Dawns, Amrywiol
GwaithCantores, cyfansoddwraig, pianydd, rapiwr
Offeryn/nauPiano, Allweddell
Cyfnod perfformio2009–presennol
Gwefancarabraia.co.uk

Cantores, cyfansoddwraig, pianydd, rapiwr ac actores o Gymraes yw Cara Louise Braia (ganwyd 4 Mehefin 1992) a adwaenir yn well dan ei enw llwyfan Cara Braia.[1] Dewiswyd ei chan Gymraeg "Maent yn Dweud"[2][3] fel 'Trac yr Wythnos' ar BBC Radio Cymru.[4]

Chwaraeir cerddoriaeth Cara ar orsafoedd radio'r BBC, Calon FM [5] a gorsafoedd eraill o gwmpas y byd oherwydd ei chydweithredu rhyngwladol gydag artistiaid eraill. Mae Cara hefyd wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu, operâu sebon, ac wedi perfformio yn fyw ar deledu yng Nghymru. Enillodd Cara wobr 'Talent House Peoples Choice' yn 2014[6] ar ôl ail-ddehongli cân gan y 'Kinks'. Ers hynny mae hi wedi cael dilyniant mawr ar Twitter a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill ac yn parhau i weithio'n galed i ddod â cherddoriaeth newydd i'w dilynwyr.

Mae Cara yn gweithio ar ei albwm Deja Vu ar hyn o bryd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cara ym Mangor, Gwynedd a magwyd yn bennaf ger Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn cyn symud i Bentrefelin. Fodd bynnag, yn dilyn genedigaeth ei chwaer fach Giovana Aleta Braia yn 1997, symudodd y teulu i dref gyfagos Criccieth[7] yn 2000.

Datblygodd Cara cariad at berfformio yn ifanc iawn pan, yn ddwy oed, cychwynnodd gael gwersi bale a dawnsio tap gwersi yn ei ysgol dawns leol. Perfformiodd am y tro cyntaf ar lwyfan yn bedair oed, ac enillodd ei prif ran gyntaf fel 'Dorothy' (Wizard of Oz) yn naw oed.

Yn naw mlwydd oed, dechreuodd Cara berfformio mewn gigs o gwmpas Gwynedd; yn canu caneuon operatig gyda grŵp clasurol o'r enw 'Reflections'. Ers hynny daeth yn fwy penderfynol i lwyddo yn y celfyddydau.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei brwdfrydedd ar gyfer cyfansoddi caneuon yn 16 mlwydd oedd wrth iddi gynhyrchu ei thraciau cyntaf ar ei halbwm Door Step, "And They say" a "Deja Vu".

Dechreuodd nifer o sioeau radio lleol chwarae caneuon Cara, a Heart FM oedd un o'r sioeau radio cyntaf i chwarae "Maent yn Dweud" yn fyw. Yn dilyn hyn chwaraeodd y trac ar BBC Radio Cymru hefyd a fe'i dewiswyd fel 'Trac Yr Wythnos'.

Yn dilyn sylw a chyfweliadau gan nifer o newyddiadurwr lleol, cysylltodd Idris Charles a hi er mwyn gwneud cyfweliad byw ar raglen deledu Heno ar S4C.

Dechreuodd berfformio mewn lleoliadau yng Nghymru ond arweiniodd ei llwyddiant at y cyfle i berfformio o gwmpas y Deyrnas Unedig. Mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys Venue Cymru, Glass Butter Beach Festival, Balchder Gogledd Cymru a llawer mwy, gan rannu llwyfan gyda nifer o artistiaid enwog fel Tinchy Stryder, Baby Blue a DJ Ace (Radio1 Xtra). Mae wedi cydweithredu gyda artistiaid o sawl cefndir diwylliannol mewn gwledydd fel Awstralia, Ffrainc, gwlad Pwyl, yr Almaen, Affrica, y DU ac yr Unol Daleithiau.

Ymddangosiadau teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Rôl / Math Cynhyrchiad / Cyfarwyddwr Cwmni / Lleoliad
2013 Canwr : Corfforaethol Glass Butter Beach Festival : Mark Durston Sensation Abersoch
2013 Model : Lluniau Rhifynnau Gwanwyn a Hydref 2013 Issues: Emma Lewthwaite Cylchgrawn Sensation
2013 Dawnsiwr : Fideo Cerddoriaeth Tinie Tempah / 5 minutes: Si & Ad Academi Yn Ogystal A+,
2013 Cyfweliad : Teledu Heno : Idris Charles S4C : Tinopolis [8]
2012 Sandy : Teledu Dim Byd : Rhian Mair Cwmni Da
2011 Jorgie Porter (Corff Dwbl) : Teledu Hollyoaks : Amrywiol Lime Pictures
2011 Chav : Teledu Morrisons challenge 25 : Eli Hourd Fresh
2011 Cyflwynwyr Tywydd : Teledu Dim Byd : Barry 'Archie' Jones Cwmni Da
2009 Arwres : Teledu Dogfen DollyBollywood : Mayur Raj Verma BBC
2009 Mary : Ffilm (Byr) Chucks : Emma Macey Ffilm 15
2008 Talulah : Theatr Bugsy Malone : Gaynor Owen Merseyside Dance and Drama centre (MDDC)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]