Cadwaladr ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan)
Jump to navigation Jump to search
Cadwaladr ap Gruffudd
Ganwyd 12G Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Chwefror 1172 Edit this on Wikidata (70 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth pendefig Edit this on Wikidata
Swydd tywysog Edit this on Wikidata
Tad Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
Mam Angharad ferch Owain Edit this on Wikidata
Plant Cadfan ap Cadwaladr Edit this on Wikidata

Roedd Cadwaladr ap Gruffudd (c.1096 - 1172) yn drydydd mab Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a'i wraig Angharad ferch Owain. Roedd yn frawd i Owain Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir y sôn cyntaf am Cadwaladr yn 1136, pan oedd gyda'i frawd Owain yn yr ymosodiad ar Geredigion a ddilynodd farwolaeth arglwydd Normanaidd Ceredigion, Richard Fitz Gilbert de Clare. Llwyddasant i gipio pum castell yng ngogledd Ceredigion. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, ymosodasant eto, ac mewn cynghrair a Gruffudd ap Rhys, tywysgog Deheubarth, gorchfygasant y Normaniaid ym Mrwydr Crug Mawr, gerllaw Aberteifi. Yn 1137 cipiasant dref Caerfyrddin.

Bu farw Gruffudd ap Cynan yn 1137 a dilynwyd ef ar yr orsedd gan Owain Gwynedd. Derbyniodd Cadwaladr diroedd yng ngogledd Ceredigion. Mae cofnod am Cadwaladr yn ymuno a Ranulph de Gernon, Iarll Caer yn yr ymosodiad ar Lincoln yn 1141. Efallai fod y cynghrair yma oherwydd fod Cadwaladr yn briod ag Alice de Clare, merch Richard Fitz Gilbert de Clare.

Yn 1143 lladdodd gwŷr Cadwaladr Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, trwy frad. Roedd amheuaeth gref fod hyn ar orchymyn Cadwaladr. Ymatebodd Owain Gwynedd trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd tiroedd Cadwaladr yng Ngheredigion oddi arno. Ffodd Cadwaladr i Iwerddon lle cyflogodd lynges gan y Daniaid oedd wedi ymsefydlu o gwmpad dinas Dulyn. Glaniodd yn Abermenai yn 1144 i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a'i frawd.

Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o'i diroedd ym Meirionnydd gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan. Wedi cweryl arall rhwng Cadwaladr ac Owain, alltudiwyd Cadwaladr i Loegr, lle rhoddodd y brenin Harri II diroedd iddo yn Swydd Amwythig. Pan ymosododd Harri II ar Wynedd yn 1157, yr oedd y cytundeb heddwch rhyngddo ef ac Owain yn cynnwys cytundeb y byddai Cadwaladr yn cael ei diroedd yn ôl. O hyn ymlaen cydweithredodd Cadwaladr yn glos a'i frawd, gan ei helpu i gipio cestyll Rhuddlan a Prestatyn yn 1167.

Bu Cadwaladr fyw am ddwy flynedd ar ôl Owain, gan farw yn 1172. Claddwyd ef wrth ochr ei frawd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Cadwaladr yn briod dair gwaith a chafodd saith o feibion;

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

John Edward Lloyd (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)