Cadeyrn Fendigaid
Cadeyrn Fendigaid | |
---|---|
Ganwyd | c. 405 ![]() |
Bu farw | 447 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, teyrn ![]() |
Tad | Gwrtheyrn ![]() |
Plant | Cadell Ddyrnllwg, Rhyddfedd Frych ![]() |
Roedd Cadeyrn Fendigaid (Catigern) yn frenin Teyrnas Powys tua chanol y 5g, yn ôl traddodiad. Tad Cadell Ddyrnllwg oedd ef.
Yn ôl yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, roedd Cadeyrn yn un o feibion Gwrtheyrn.
Yn ôl Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid a'r Historia Brittonum, lladdwyd Cadeyrn wrth ymladd yn erbyn y Sacsoniaid ym Mrwydr Aylesford yn 455 OC. Lladdwyd Hors (Horsa), brawd Hengist hefyd. Mae llawer o haneswyr yn ystyried fod hanes Gwrtheyrn, Hengist a Hors yn perthyn i chwedloniaeth yn hytrach na hanes go iawn.