Cadell Ddyrnllwg
Gwedd
Cadell Ddyrnllwg | |
---|---|
Ganwyd | 430 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | Unknown ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, teyrn ![]() |
Tad | Cadeyrn Fendigaid, Pasgen ap Rhydwf ap Rhuddfedyl Frych ap Cyndeyrn, Cadeyrn Fendigaid ![]() |
Priod | Gwenfyl ![]() |
Plant | Gwnfyw Frych ap Cadell Deyrnllwg ap Pasgen ap Rhydwf, Iddig ap Cadell Deyrnllwg ap Pasgen ap Cyndeyrn, Ystradwen ferch Cadell Deyrnllwg, Cyngen Glodrydd ![]() |
Yn ôl traddodiad, roedd Cadell Ddyrnllwg yn frenin Teyrnas Powys tua chanol y 5g.
Dywedir ei fod yn fab i Cadeyrn Fendigaid. Dywedir iddo gael ei yrru o deyrnas ei dad gan ymosodwyr Gwyddelig, ac iddo ymguddio ymhlith y werin. Daeth yn was i bennaeth Gwyddelig o'r enw Benlli.
Dywedir i Sant Garmon, ar ei ymweliad a Phrydain, godi byddin i ymosod ar brifddinas Benlli, oedd yn bagan. Roedd gan Cadell dŷ bychan tu allan i'r muriau, a dangosodd letygarwch i Garmon. Dywedodd Garmon wrtho am adael y ddinas, a'r noson honno tarawyd plas Benlli gan fellten, a lledaenodd y tân i losgi'r ddinas. O ganlyniad, daeth Cadell yn frenin Powys.