Rhyddfedd Frych

Oddi ar Wicipedia

Un o frenhinoedd cynnar Powys oedd Rhyddfedd Frych (435? -?), a elwir weithiau yn Rhyddfedd ap Categern. Fel gyda llawer o frenhinoedd cynnar Powys, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano. Efallai ei fod yn fab i Cadeyrn Fendigaid, ac yn frawd i Cadell Ddyrnllwg, oedd ar orsedd Powys o'i flaen.

Dilynwyd ef gan ei fab, Cyngen Glodrydd.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.