Cân y Cathreinwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cân werin Gymraeg yw Cân y Cathreinwr.[2] Un sy'n gyrru'r ychen, neu'r wedd ychen wrth aredig yw 'cathreiniwr'. Ceir fersiwn ohoni a recordiwyd gan Sain Ffagan yn 1953: recordiad o Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), o "Rock House", Twynyrodyn, ger Gwenfô, Sir Forgannwg, yn nhafodiaith Bro Morgannwg.

Ers canrifoedd bu pobl yn galw anifeiliaid gyda galwad arbennig, ac mae ffermwyr yn dal i wneud hynny. Yn y gân hon, ceir galwad yr ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghyd ag sawl alaw) a genid i'r wedd ychen yn y de. Ym Morgannwg y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru - hyd at 1880.

Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen, fel hon, a gofnodwyd ym Morgannwg. Ceir llawer o dribannau serch a thribannau trioedd. Mae'n nhw'n nodweddiadol iawn yn eu cynildeb a'u harabedd (hiwmor). Unedau hunan–gynhaliol yw'r rhan fwyaf o'r penillion wedi'u cyplysu at ei gilydd yn un gyfres.

Y geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mi geso i 'ngwadd i swpar
Gan ŵr bonheddig, hawddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!
Mi geso i 'ngwadd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara haidd fel rhisgil coed;
Ni cheso i 'rioed well greso! Ma–hw!
Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn werthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!
Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw hwch â iwc mewn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–with! Ma–hw!
Tri pheth an-hawdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru[3] ceir sawl fersiwn o'r gair, ac amrywiadau ac ystyron gwahanol:

  • cathreinwr neu cethrenwr - un sy'n gofalu neu'n gyrru'r ychen wrth aredig
  • cethr neu cethren (a'r berfau cathrain, cethru) - gwanu, tyllu, pigo a dweud y drefn, Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn Llyfr Aneirin (13g): ef rwygei. a chethrei. a chethrawr. Mae'n bosib mai benthyciad o'r Lladin (centrum)yw'r gair ac fe'i ceir yn y Llydaweg (kentr), Cernyweg (kentr), Hen Wyddeleg (cinteir). Mae'n bosib fod y gair wedi dod i gyfeirio at big y swch neu'r aradr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato