Borgia (cyfres deledu)
Borgia: Faith and Fear | |
---|---|
Genre | Ffuglen hanesyddol |
Crëwyd gan | Tom Fontana |
Cyfarwyddwyd gan |
|
Yn serennu |
|
Cyfansoddwr/wyr | Cyril Morin (season 1) Eric Neveux (seasons 2–3) |
Gwlad |
|
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o dymhorau | 3 |
Nifer o benodau | 38 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol |
|
Cynhyrchydd/wyr |
Aaron Seliquini (cynorthwyydd) |
Lleoliad(au) |
|
Sinematograffi | Ousama Rawi (cyfresi 1 a 2) James Welland (cyfres 3) |
Hyd y rhaglen | 52 munud |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | |
Darlledwyd yn wreiddiol | 10 Gorffennaf 2011 | – 27 Hydref 2014
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Cyfres deledu yw Borgia a adnabyddir hefyd fel Borgia: Faith and Fear. Fe'i gwnaed ar y cyd rhwng Ffrainc, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec a'r Eidal gan Tom Fontana. Drama am deulu hanesyddol y Borgias ydyw, a sut y daeth y teulu'n un o deuluoedd mwyaf pwerus y byd yn ystod y Dadeni Dysg.[1][2]
Rhyddhawyd y ffilm am y tro cyntaf yn yr Eidal ar Sky Italia ar 10 Gorffennaf 2011 ac yna yng Ngogledd America ar Netflix ar 2 Hydref 2011. Yn Ffrainc fe'i rhyddhawyd ar Canal+ ar 18 Marwrth 2013,[3] ac ar Netflix ar 1 Mai 2013. Darlledwyd y drydedd gyfres (a'r olaf) yn Ffrainc ar Canal+ ar 15 Medi 2014[3] a Netflix ar 1 Tachwedd 2014.[4]
Cynhyrchu[golygu | golygu cod]
Cynhyrchwyd y gyfres gan Atlantique Productions, un o isgwmniau Lagardère Entertainment ar gyfer y sianel am-dâl Ffrengig: Canal+ mewn cydweithrediad gyda EOS Entertainment, ac fe'i ffilmiwyd yn yr Eidal a'r Weriniaeth Tsiec.[2] Trefnwyd y dosbarthu byd-eang gan Beta Film GmbH. Ffimiwyd y drydedd gyfres rhwng 27 Mai 2013 a 27 Ionawr 2014.
Actorion[golygu | golygu cod]
- John Doman fel Cardinal Rodrigo Borgia / Pab Alecsander VI (cyfresi 1–3)
- Mark Ryder fel Cardinal Cesare Borgia (cyfresi 1–3)
- Stanley Weber fel Juan Borgia (regular season 1, guest seasons 2-3)
- Isolda Dychauk fel Lucrezia Borgia (cyfresi 1–3)
- Marta Gastini fel Giulia Farnese (cyfresi 1–3)
- Diarmuid Noyes fel Cardinal Alessandro Farnese (cyfresi 1–3)
- Art Malik fel Francesc Gacet, ysgrifennydd Rodrigo Borgia (cyfresi 1–3)
- Assumpta Serna fel Vannozza Cattanei (cyfresi 1–3)
- Christian McKay fel Cardinal Ascanio Sforza (cyfresi 1–2)
- Scott Winters fel Cardinal Raffaele Riario-Sansoni (cyfresi 1–3)
- Dejan Čukić fel Cardinal Giuliano della Rovere (cyfresi 1 a 2)
- Joseph Beattie fel Louis XII, brenin Ffrainc
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Borgia ar wefan Internet Movie Database
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-05. Cyrchwyd 2016-06-18.
- ↑ 2.0 2.1 http://www.totalfilm.cz/2012/03/borgia-dnes-vecer-na-barrandove/ Czech
- ↑ 3.0 3.1 "Borgia - Une création originale Canal+". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-13. Cyrchwyd 2016-06-18.
- ↑ "New Titles on Netflix US (Nov. 1)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-06-18.