Bodychen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bodychen fel y bu
Rhan o adfeilion Bodychen.
Bodychen: rhan arall o'r muriau.

Plasdy canoloesol ym Môn a fu'n enwog gynt fel noddfa i feirdd yw Bodychen. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roedd yn perthyn i ddisgynyddion Hwfa. Mae'r tŷ yn adfail heddiw.

Saif Bodychen ym mhlwyf Bodwrog, a fu gynt yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw, ger Llandrygarn yng nghanol Ynys Môn, i'r gogledd o dref Llangefni.

Noddwyr y beirdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y noddwr amlycaf a gysylltir a'r plasdy yw Rhys ap Llywelyn (m. tua 1503-1504). Cofnodir iddo arwain mintai o wŷr Môn i ymladd ym myddin Harri Tudur ar Faes Bosworth yn 1487. Canodd y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527) iddo ar fwy nag un achlysur ac mae'n ymddangos ei fod yn fardd teulu yno am gyfnod. Parhaodd Siôn Wyn, fab Rhys, a'i ddisgynyddion yntau i gynnal y traddodiad hyd y 1630au.

Ymhlith y beirdd eraill a ganodd ar aelwyd Bodychen oedd Siôn Brwynog, Gruffudd Hiraethog, Wiliam Cynwal a Hywel Rheinallt. Dyma ddisgrifiad Hywel Rheinallt o simneiau uchel y plas ar ddechrau'r 16g (arwydd o statws yn y cyfnod hwnnw):

Siambrau a simneiau sydd,
Ac aelwydau y gwledydd;
Llewys mwg brenhinllys Môn,
A derw uchel diwreichion.[1]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond rhannau o furiau'r hen blasdy, yn cynnwys darnau gyda ffenestri, sy'n sefyll heddiw, mewn cae ger Llandrygarn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyfynwyd gan Enid Roberts yn, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 44.