Llandrygarn

Oddi ar Wicipedia

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llandrygarn. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r dwyrain o bentref Rhosneigr. Mae pentref bychan Trefor yn gorwedd yn y plwyf. Roedd ysgol gynradd leol, sef Ysgol Llandrygarn, ar ôl y plwyf: oedd yn nhalgylch Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd yn ysgol fach iawn oedd yn dod ar Gymuned gyfan at ei gilydd. Caeodd yr ysgol yn 2013, oherwydd y gostyngiad yn y disgyblion

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Ystyr yr enw yw 'Eglwys y carn fawr' (llan 'eglwys' + trygarn gyda try- yn cryfhau ystyr y gair carn).[1]

Am y ffin rhwng Llandrygarn a phlwyf Bodwrog ceir adfeilion plasdy hynafol Bodychen.

Pobl o Landrygarn[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato