Beryl Bainbridge

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Beryl Bainbridge
Ganwyd21 Tachwedd 1932 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 2010 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain, University College Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Merchant Taylors' Girls' School
  • Ysgol y Celfyddydau Mynegiannol, Tring Park Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, sgriptiwr, nofelydd, ysgrifennwr, arlunydd Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, David Cohen Prize Edit this on Wikidata

Roedd Y Fonesig Beryl Margaret Bainbridge DBE (21 Tachwedd, 1932 - 2 Gorffennaf 2010) [1][2] yn llenor Saesnig o Lerpwl. Roedd hi'n adnabyddus yn bennaf am ei gweithiau ffuglen seicolegol, yn aml straeon echrysol wedi'u gosod ymhlith dosbarth gweithiol Lloegr. Enillodd Bainbridge Gwobr Whitbread am y nofel orau ym 1977 a 1996; cafodd ei henwebu pum gwaith ar gyfer y Wobr Booker.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Beryl Bainbridge yn Lerpwl a'i magu yn Formby gerllaw. Ei rhieni oedd Richard Bainbridge a Winifred Baines.

Roedd hi'n mwynhau ysgrifennu, ac erbyn 10 oed roedd hi'n cadw dyddiadur.[3] Cafodd wersi llais a, phan oedd hi'n 11 oed, ymddangosodd ar sioe radio Northern Children Hour,[4] ochr yn ochr â Billie Whitelaw a Judith Chalmers. Cafodd Bainbridge ei diarddel o Ysgol Merched Merchant Taylors (Crosby) oherwydd iddi gael ei dal a "cherdd fudr" (fel y disgrifiodd hi yn ddiweddarach), a ysgrifennwyd gan rywun arall, ym mhoced ei ffrog.[5] Yna aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Cone-Ripman, Tring, Swydd Hertford (Ysgol Celfyddydau Perfformio Tring Park erbyn hyn),[6] lle canfu ei bod yn dda mewn hanes, Saesneg a chelf.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr haf y gadawodd yr ysgol, fe syrthiodd mewn cariad â chyn Carcharor rhyfel o'r Almaen a oedd yn aros i gael ei ddychwelyd. Am y chwe blynedd nesaf, bu'r cwpl yn gohebu ac yn ceisio cael caniatâd i'r dyn o'r Almaen ddychwelyd i Brydain fel y gallent briodi. Ond gwrthodwyd caniatâd a daeth y berthynas i ben ym 1953. Yn y flwyddyn ganlynol (1954), priododd Bainbridge yr artist Austin Davies. Ym 1958, ceisiodd hunanladdiad trwy roi ei phen mewn popty nwy.[7] Ysgarodd y ddau yn fuan wedi hynny, gan adael Bainbridge yn fam sengl i ddau blentyn. Yn ddiweddarach, cafodd drydydd plentyn gan Alan Sharp, yr actores Rudi Davies (ganwyd 1965).[3] Roedd Sharp ar ddechrau ei yrfa fel nofelydd ac awdur sgriptiau. Yn ddiweddarach, byddai Bainbridge yn gadael i bobl feddwl mai ef oedd ei hail ŵr; mewn gwirionedd, ni wnaethant briodi erioed ond anogodd y berthynas hi i droi ei llaw at ffuglen.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd Bainbridge ei blynyddoedd cynnar yn gweithio fel actores, ac y 1961 ymddangosodd mewn pennod o’r opera sebon Coronation Street yn chwarae protestiwr gwrth niwclear.

Er mwyn helpu i lenwi ei hamser, dechreuodd Bainbridge ysgrifennu, yn seiliedig yn bennaf ar ddigwyddiadau o'i phlentyndod. Gwrthodwyd ei nofel gyntaf, Harriet Said ..., gan sawl cyhoeddwr, a chanfu un ohonynt fod y cymeriadau canolog yn "wrthun bron y tu hwnt i gred". Fe’i cyhoeddwyd yn y pen draw ym 1972, bedair blynedd ar ôl ei thrydedd nofel (Another Part of the Wood). Cyhoeddwyd ei hail a'i thrydedd nofel (1967/68) ac fe'u derbyniwyd yn dda gan feirniaid er iddynt fethu ag ennill llawer o arian.[5][8] Ysgrifennodd a chyhoeddodd saith nofel arall yn ystod y 1970au, a dyfarnwyd gwobr Whitbread i'r bumed, Injury Time, am y nofel orau ym 1977.

Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[9]

O 1980 ymlaen, ymddangosodd wyth nofel arall. Addaswyd nofel 1989, An Awfully Big Adventure, yn ffilm ym 1995, gyda Alan Rickman a Hugh Grant yn serennu.

Yn y 1990au, trodd Bainbridge at ffuglen hanesyddol. Parhaodd y nofelau hyn i fod yn boblogaidd gyda beirniaid, ond y tro hwn, roeddent hefyd yn llwyddiannus yn fasnachol.[5] Ymhlith ei nofelau ffuglen hanesyddol mae Every Man for Himself, am drychineb y Titanic ym 1912, yr enillodd Bainbridge Gwobr Whitbread 1996 am y nofel orau, a Master Georgie, a osodwyd yn ystod Rhyfel y Crimea, yr enillodd Gwobr James Tait Black am ffuglen 1998 amdani. Mae ei nofel olaf, According to Queeney, yn adroddiad wedi'i ffugio o flynyddoedd olaf bywyd Samuel Johnson fel y'i gwelir trwy lygaid Queeney Thrale, merch hynaf Henry a Hester Thrale. Cyfeiriodd yr Observer ati fel "... nofel hynod ddeallus, soffistigedig a difyr".[10]

O'r 1990au, bu Bainbridge hefyd yn feirniad theatr ar gyfer y cylchgrawn misol The Oldie . Anaml y byddai ei hadolygiadau yn cynnwys negyddol, ac fel rheol fe'u cyhoeddwyd ar ôl i'r ddrama gau.[5]

Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[9]

Anrhydeddau a gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2000, fe’i penodwyd Bainbridge yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE). Ym mis Mehefin 2001, dyfarnwyd gradd doethur er anrhydedd i Bainbridge gan y Brifysgol Agored.[11] Yn 2003, dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth David Cohen iddi ar y cyd â Thom Gunn. Yn 2005, cafodd y Llyfrgell Brydeinig lawer o lythyrau a dyddiaduron preifat Bainbridge.[3] Yn 2011, dyfarnwyd anrhydedd arbennig iddi ar ôl ei marwolaeth gan bwyllgor Gwobr Booker.[12]

Blynyddoedd olaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2003, dechreuodd ŵyr Bainbridge, Charlie Russell, ffilmio rhaglen ddogfen, Beryl's Last Year, am ei bywyd. Manylodd y rhaglen ddogfen ar ei magwraeth a'i hymdrechion i ysgrifennu nofel, Dear Brutus (a ddaeth yn ddiweddarach The Girl in the Polka Dot Dress ); fe'i darlledwyd yn y Deyrnas Unedig ar 2 Mehefin 2007 ar BBC Four .

Yn 2009, rhoddodd Bainbridge y stori fer Goodnight Children, Everywhere i brosiect Ox-Tales Oxfam, pedwar casgliad o straeon o'r DU a ysgrifennwyd gan 38 awdur. Cyhoeddwyd ei stori yn y casgliad "Air". Bainbridge oedd noddwr Gwobr Llyfr y Bobl.

Roedd Bainbridge yn dal i weithio ar The Girl in the Polka Dot Dress ar adeg ei marwolaeth. Mae'r nofel, a oedd yn seiliedig ar daith bywyd go iawn Bainbridge a wnaed ledled America ym 1968, yn ymwneud â'r ferch ddirgel yr honnir iddi fod yn rhan o lofruddiaeth Robert Kennedy. Golygwyd y nofel ar gyfer ei gyhoeddi gan Brendan King ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mai 2011 gan Little, Brown.[13]. Cyhoeddwyd cofiant King i Bainbridge Beryl Bainbridge: Love by All Sorts of Means ym mis Medi 2016.[14]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedd Bainbridge ym Mynwent Highgate

Bu farw Bainbridge yn 77 oed, mewn ysbyty yn Llundain ar ôl i'w chanser dychwelyd.[15][16] Claddwyd hi ym Mynwent Highgate .

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Weekend with Claud (1967)
  • Another Part of the Wood (1968)
  • Harriet Said... (1972)
  • The Dressmaker (1973)
  • The Bottle Factory Outing (1974) (Gwobr Guardian)
  • Sweet William (1975)
  • A Quiet Life (1976)
  • Injury Time (1977)
  • Young Adolf (1978)
  • Winter Garden (1980)
  • Watson's Apology (1984)
  • Filthy Lucre (1986)
  • An Awfully Big Adventure (1989)
  • The Birthday Boys (1991)
  • Every Man for Himself (1996)
  • Master Georgie (1998)
  • According to Queeney (2001)
  • The Girl in the Polka-dot Dress (2011)

Casgliadau o straeon byrion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mum and Mr Armitage (1985)
  • Collected Stories (1994)
  • Northern Stories Vol. 5 (ar y cyd a David Pownall) (1994)

Ffeithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • English Journey, or The Road to Milton Keynes (1984)
  • Forever England: North and South (1987)
  • Something Happened Yesterday (1993)
  • Front Row: Evenings at the Theatre (2005)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Frontispiece of Injury Time by Beryl Bainbridge,1991 Penguin edition.
  2. Wroe, Nicholas (1 Mehefin 2002), "Filling in the gaps" (Beryl Bainbridge profile), The Guardian.
  3. 3.0 3.1 3.2 Hastings, Chris (12 Hydref 2005), "Beryl Bainbridge, a German prisoner of war and a secret love affair", The Daily Telegraph (London), https://www.telegraph.co.uk/news/main.jhtml?xml=/news/2005/12/11/nberyl11.xml&sSheet=/news/2005/12/11/ixhome.html, adalwyd 17 Tachwedd 2008
  4. Howard Gotlieb Archival Research Center, Boston University -Bainbridge, Beryl
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Preston, John (24 Hydref 2005), "Every story tells a picture", Daily Telegraph, https://www.telegraph.co.uk/arts/main.jhtml?xml=/arts/2005/10/24/boberyl.xml&page=1, adalwyd 17 Ionawr 2008
  6. Levy, Paul (3 Gorffennaf 2010). "Dame Beryl Bainbridge: Novelist whose work began rooted in autobiography and which later developed to encompass historical subjects". The Independent.
  7. Higgins, Charlotte (25 Mai 2007), "Bainbridge is seen through a grandson's eyes", The Guardian (London, England), http://books.guardian.co.uk/hay2007/story/0,,2088035,00.html, adalwyd 17 Ionawr 2008
  8. Brown, Craig (4 Tachwedd 1978), "Beryl Bainbridge: an ideal writer's childhood", The Times: 14.
  9. 9.0 9.1 Canby, Vincent (18 Mehefin 1982), "Sweet William (1979)", The New York Times, https://movies.nytimes.com/movie/review?res=9D05E6DA103BF93BA25755C0A964948260, adalwyd 17 Ionawr 2008
  10. Sisman, Adam (2001-08-26). "Madness and the mistress". The Observer. Cyrchwyd 2013-05-08.
  11. "Dame Beryl Bainbridge, Doctor of the University" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Rhagfyr 2013.Retrieved 4 Awst 2013.
  12. Man Booker Prize "Best of Beryl" Award, 8 Chwefror 2011.
  13. Bradbury, Lorna (2010-05-07). "Beryl Bainbridge last masterpiece of ân obsessive". Daily Telegraph. Cyrchwyd 2011-05-10.,
  14. "Beryl Bainbridge. Love by All Sorts of Means: A Biography". Bloomsbury. 2016-02-24. Cyrchwyd 2016-02-24.,
  15. "Dame Beryl Bainbridge, novelist, died on July 2nd, aged 77". The Economist. 15 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 2010-12-25.
  16. Bainbridge had been a heavy smoker for much of her life. See The Economist obituary, 17 Gorffennaf 2010, p. 90.