Benjamin Zephaniah

Oddi ar Wicipedia
Benjamin Zephaniah
Benjamin Zephaniah 20181206.jpg
Ganwyd15 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Handsworth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, bardd, ysgrifennwr, canwr Edit this on Wikidata
MudiadÔl-foderniaeth, Ôl-drefedigaethrwydd Edit this on Wikidata
PerthnasauMikey Powell Edit this on Wikidata
Gwobr/auhonorary doctor of the University of Birmingham, honorary doctor of the University of Exeter, Honorary Fellow of the British Academy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://benjaminzephaniah.com/ Edit this on Wikidata

Bardd Seisnig yw Benjamin Obadiah Iqbal Zephaniah (ganwyd 15 Ebrill 1958, Birmingham, Lloegr). Mae'n lenor Rastafarian a bardd dub.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed a magwyd Zephaniah yn Handsworth ardal o fewn dinas Birmingham,[1] man y cyfeiriodd ato fel "Jamaican capital of Europe", yn fab i bostmon o Barbados a nyrs.[2][3] Fel person â dyslecsia, fe fynychodd ysgol arbennig, ond gadawodd yr ysgol yn 13 oed heb fod yn gallu darllen nac ysgrifennu.

Gwrthod OBE[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2003, fe esboniodd Zephaniah yn The Guardian ei fod wedi gwrthod OBE gan y Frenhines gan ei fod yn ei atgoffa o "how my foremothers were raped and my forefathers brutalised".[4]

Erthygl am ddysgu Cymraeg i blant yn Lloegr[golygu | golygu cod]

Yn sgil ei ymweliad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 pan gyflwynodd rhaglen am yr ŵyl i BBC Four[5], cyhoeddwyd erthygl gan Zephaniah ar wefan BBC am y syniad o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion yn Lloegr[6] yn ogystal ag erthyglau am ei sylwadau.[7][8]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Zephaniah ei lyfr cyntaf o gerddi, Pen Rhythm, yn 1980. Cafodd cystal dderbyniad fel yr argraffwyd tair cyfrol. Fe dderbyniodd ei albwm Rasta, a oedd yn cynnwys recordiad cyntaf band The Wailers ers marwolaeth Bob Marley yn ogystal â bod yn deyrnged i Nelson Mandela, sylw ar draws y byd a bu ar frig siartiau albymau Iwgoslafia.[9]

Roedd Zephaniah yn poet in residence yn siambrau Michael Mansfield QC, ac eisteddodd i mewn ar gyfer yr ymchwiliad i Sul y Gwaed ac achosion eraill, ac fe arweiniodd y profiadau hyn at ei gasgliad o gerddi Too Black, Too Strong.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Pen Rhythm (1980)
  • The Dread Affair: Collected Poems (Arena, 1985)
  • City Psalms (Bloodaxe Books, 1992)
  • Inna Liverpool (AK Press, 1992)
  • Talking Turkeys (Puffin, 1995)
  • Propa Propaganda (Bloodaxe Books, 1996)
  • Funky Chickens (Puffin, 1997)
  • School's Out: Poems Not for School (AK Press, 1997)
  • Funky Turkeys (Llafarlyfr) (AB, 1999)
  • Wicked World! (Puffin, 2000)
  • Too Black, Too Strong (Bloodaxe Books, 2001)
  • The Little Book of Vegan Poems (AK Press, 2001)
  • Reggae Head (Llafarlyfr) (57 Productions)
  • Rong Radio Station

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Face (Bloomsbury, 1999) (cyhoeddwyd mewn rhifynau i blant ac i oedolion)
  • Refugee Boy (Bloomsbury, 2001)
  • Gangsta Rap (Bloomsbury, 2004)
  • Teacher's Dead (Bloomsbury, 2007)

Llyfrau plant[golygu | golygu cod]

  • We are Britain (Frances Lincoln, 2002)
  • Primary Rhyming Dictionary (Chambers Harrap, 2004)
  • J is for Jamaica (Frances Lincoln, 2006)

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • Listen to Your Parents (wedi ei gynnwys yn Theatre Centre: Plays for Young People - Celebrating 50 Years of Theatre Centre (2003) Aurora Metro, cyhoeddwyd hefyd gan Longman, 2007)
  • Face: The Play

Discograffi[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

  • Rasta (1982) Upright (ail gyhoeddwyd (1989) Workers Playtime (UK Indie #22)[10]
  • Us An Dem (1990) Island
  • Back to Roots (1995) Acid Jazz
  • Belly of De Beast (1996) Ariwa
  • Naked (2005) One Little Indian
  • Naked & Mixed-Up (2006) One Little Indian (Benjamin Zephaniah Vs. Rodney-P)

Senglau, EPs[golygu | golygu cod]

  • Dub Ranting EP (1982) Radical Wallpaper
  • "Big Boys Don't Make Girls Cry" 12-inch single (1984) Upright
  • "Crisis" 12-inch single (1992) Workers Playtime
  • "Empire" (1995) Bomb the Bass with Benjamin Zephaniah & Sinead O'Connor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Benjamin Zephaniah", British Council, retrieved April 13, 2008.
  2. (Saesneg) "Biography" Archifwyd 2008-04-12 yn y Peiriant Wayback., BenjaminZephaniah.com
  3. (Saesneg) Dread poet's society", The Guardian, 4 November, 2001
  4. (Saesneg) "'Me? I thought, OBE me? Up yours, I thought'", The Guardian, Tachwedd 27, 2003.
  5. http://www.bbc.co.uk/programmes/b066vgrq
  6. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33841602
  7. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33840395
  8. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-33840692
  9. (Saesneg) The Brighton Magazine
  10. Lazell, Barry (1997) Indie Hits 1980-1989, Cherry Red Books, ISBN 0-9517206-9-4

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]