Benjamin Francis
Benjamin Francis | |
---|---|
Ganwyd | 1734 Cenarth |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1799 Horsley |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | emynydd, bardd, gweinidog yr Efengyl |
Roedd Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799) yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn emynydd amlwg yn y Gymraeg a'r Saesneg.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Francis ym Mhencelli Fawr, Cenarth. Roedd yr ieuengaf o chwech o blant Enoch Francis (1689-1740),[2] Gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn, bardd ac awdur a Mary (née Evans) ei wraig. Bu ei frawd hynaf, Jonathan Francis,[3] yn weinidog y Bedyddwyr ym Mhen-y-fai a phriododd ei chwaer a'r Parch Stephen Davies,[4] gweinidog y Bedyddwyr yng Nghaerfyrddin. Bu farw Mary Francis ym 1739 pan oedd Benjamin yn 5 mlwydd oed a bu farw Enoch y flwyddyn ganlynol,[5] magwyd Benjamin ar ôl farwolaeth ei rieni gan berthnasau yn Abertawe. Cafodd ei addysgu yn Athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bedyddiwyd Francis yn Abertawe ym 1749 a dechreuodd bregethu tua 1753 pan oedd yn 19 mlwydd oed. Wedi treulio cyfnod yn athrofa Bryste rhwng 1753 a 1755 cafodd swydd fel gweinidog cynorthwyol yn Broadmead, Bryste am flwyddyn. Ym 1756 symudodd i Chipping Sodbury, Swydd Gaerloyw i wasanaethu fel gweinidog ar brawf cyn symud i Horsley, Swydd Gaerloyw lle cafodd ei hordeinio ym 1759. Arhosodd yn Horsley am weddill ei fywyd.[6]
Pan ddechreuodd Francis ar ei weinidogaeth yn Horsley roedd achos y Bedyddwyr yn yr ardal yn fychan ac yn dlawd. Ond yn fuan dechreuodd arddull efengylaidd pregethu'r gweinidog newydd ddenu aelodau newydd i'r achos a bu'n rhaid helaethu'r capel ac agor capeli cangen mewn pentrefi cyfagos.[6] Yn ogystal â bod yn weinidog ar ei gapeli yng nghylch Horsley bu Francis yn efelychu'r Methodistiaid gan ddod yn bregethwr teithiol. Am lawer o'r flwyddyn byddai'n edrych ar ôl buddiannau ei gynulleidfa gartref ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ac yna'n teithio o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy swyddi Caerloyw, Caerwrangon a Wiltshire gan gynnal oedfaon yn yr hwyr mewn amryw o drefi a phentrefi.[6] Cadwodd ei gysylltiad â Chymru a'r Gymraeg trwy deithio yng Nghymru a thrwy fynychu cymanfaoedd y Bedyddwyr Cymraeg a phregethu i'r gymanfa ar 14 achlysur.[1]
Awdur ac emynydd
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd Francis dau draethawd dychanol ar y ddadl Bedydd The Salopian Zealot a The Oracle, ailgyhoeddwyd y cyntaf sawl gwaith yn Lloegr a chafodd ei ailargraffu yn America.[7] Cyfieithwyd y taflenni i'r Gymraeg a chawsant eu dosbarthu yn ardal enedigol Francis, cylch Castellnewydd Emlyn. Daeth copïau o'r taflenni i law rhai o Annibynwyr yr ardal gan beri iddynt i boeni am werth eu bedydd ac i holi os oedd angen eu bedyddio eto fel oedolion. Mewn ateb i'r pryderon cyhoeddodd Benjamin Efans [8] gweinidog yr Annibynwyr llyfryn ar ffurf gyfres o lythyrau, wedi eu cyfeirio at Francis. Anwybyddodd Francis llythyrau Efans ond cawsant eu hateb trwy lyfryn a gyhoeddwyd gan y Parch Dr William Richards,[9] gweinidog Cymraeg oedd yn byw yn King's Lynn, Swydd Norfolk.
Ysgrifennodd nifer o ddarnau o farddoniaeth Saesneg gan gynnwys cerddi coffa ar achlysur marwolaethau'r Parchedigion George Whitefield , Caleb Evans, Robert Day, a Joshua Thomas.[10]
Bu Francis yn emynydd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cynhwyswyd pump o'i emynau Saesneg yng Nghasgliad dylanwadol y Parch John Rippon A Selection of Hymns from the Best Authors (1787),[7] Roedd 103 emyn yn y llyfr cyntaf a 91 yn yr ail gyfrol. Mae pedwar o'i emynau yn ymddangos yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001:
- Emyn rhif 63 – Gofala Duw a Thad Pob Dawn
- 359 – Deffro 'nghalon, deffro 'nghân
- 604 - Mae Eglwys Dduw fel dinas wych
- 746 – Dilynaf fy Mugail drwy f'oes
Am emynau eraill gan Francis gweler Categori:Benjamin Francis ar Wicidestun
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Francis dwywaith. Ym 1759 priododd â gwraig o'r enw Mary Harris, brodor o Gymru, bu iddynt pump o blant ond bu farw'r cyfan ond un cyn tyfu'n oedolion a bu farw'r fam o fewn pum mlynedd o'i phriodas.[6] Ym 1766 priododd a Mary Wallis,[11] bu iddynt deg o blant, ond dim ond tri ohonynt oedd yn dal i fyw ar adeg marwolaeth eu tad.[6]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent capel y Bedyddwyr Horsley.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 FRANCIS, BENJAMIN (1734 - 1799), emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
- ↑ FRANCIS, ENOCH (1688-9 - 1740), gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
- ↑ FRANCIS, JONATHAN (1722/3 - 1801), gweinidog y Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
- ↑ DAVIES, STEPHEN (bu farw 1794), atgyfodwr achos y Bedyddwyr yn nhref Caerfyrddin ar ôl diflaniad y gynulleidfa gyntaf yn yr 17eg ganrif. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
- ↑ BRASLUN O HANES BEDYDDWYR CYMRU. Rhif vi.- Y Bedyddwyr o gyhoeddiad "Deddf y Goddefiad" yn 1689, hyd yn bresennol- GAN Y PARCH. J. SPINTHER JAMES, LLANDUDNO. Y Greal, Hydref 1875 tud. 226 Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN FRANCIS, A. C. O Horsley, Swydd Gaerloyw; Greal y Bedyddwyr; Cyf. I Rhif. 8 Awst 1827 tt 229-233 Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
- ↑ 7.0 7.1 Gwefan Hymnary Benjamin Francis adalwyd 5 Gorffennaf 2020
- ↑ EVANS, BENJAMIN (1740 - 1821), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 3 Gorffennaf 2020
- ↑ RICHARDS, WILLIAM (1749 - 1818), dadleuydd diwinyddol a gwleidyddol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
- ↑ COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN FRANCIS, A. C. O Horsley, Swydd Gaerloyw.-Parhad; Greal y Bedyddwyr; Cyf. I Rhif. 9 Medi 1827 Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
- ↑ Phillimore Marriage Registers, 1531-1913 Gloucestershire Marriage Registers, Vol 7