Barbara Hambly

Oddi ar Wicipedia
Barbara Hambly
FfugenwBarbara Hamilton Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Awst 1951 Edit this on Wikidata
San Diego Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Arddullffantasi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.barbarahambly.com Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Barbara Hambly (ganwyd 28 Awst 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd ac awdur ffuglen wyddonol, dirgelwch, ffuglen hanesyddol a ffantasi. Gwasanaethodd Hambly fel Llywydd Cymdeithas Awduron Ffuglen Wyddonol a Ffantasi America rhwng 1994 a 1996.

Fe'i ganed yn San Diego ar 28 Awst 1951. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Bordeaux III, Prifysgol California, Riverside.[1][2][3]

Y Llenowr[golygu | golygu cod]

Mae ganddi gyfres ddirgelwch hynod boblogaidd yn cynnwys dyn lliw, rhydd, cerddor a meddyg, yn New Orleans yn y blynyddoedd antebellum. Ysgrifennodd nofel hefyd am Mary Todd Lincoln. Lleolir ei nofelau ffuglen wyddonol o fewn yrhyn a elwir yn aml-ofod (multiverse), yn ogystal ag o fewn lleoliadau a oedd eisoes yn bodoli (e.e. Star Trek a Star Wars).

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Er iddi gael ei geni yn San Diego, California yn Montclair, California y cafodd ei magu. Tarddai ei rhieni, Everett Edward Hambly Jr. a Florence Elizabeth (Moraski) Hambly, o Fall River, Massachusetts; a Scranton, Pennsylvania (respectively).

Mae ganddi chwaer hŷn, Mary Ann Sanders, a brawd iau, Everett Edward Hambly, III. Yn ei harddegau cynnar, ar ôl darllen The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkien, gosododd luniau o ddreigiau ar ddrws ei hystafell wely. Ers yn ifanc iawn, dechreuodd ymddiddori mewn gwisgoedd, ac ymddiddorodd am gyfnod hir iawn yng ngwaith y Society for Creative Anachronism. Yng nghanol y 1960au, treuliodd y teulu Hambly flwyddyn yn Awstralia.

Derbyniodd Hambly radd Meistr mewn Hanes yr Oesoedd Canol o Brifysgol California, Riverside. Cwblhaodd ei gradd yn 1975 a threuliodd flwyddyn yn Bordeaux fel rhan o'i hastudiaethau.

Bu'n briod am rai blynyddoedd i George Alec Effinger, awdur ffuglen wyddonol, ond bu farw yn 2002. Mae Hambly yn byw yn Los Angeles. Mae'n siarad yn rhydd am y ffaith ei bod yn dioddef o anhwylder affeithiol tymhorol (seasonal affective disorder), na chafodd ei ddadansoddi a'i drin am flynyddoedd.

Y llenor[golygu | golygu cod]

Mae gan waith Hambly sawl thema a daw ei hoffter o gymeriadau anarferol, gwahanol o fewn y genre ffantasi i'r golwg dro ar ôl tro e.e. y wrach menoposal (diwedd y mislif) a'r arglwydd ysgolheigaidd yn y drioleg Winterlands, neu'r asiant cudd yn ei nofelau ar fampirod.[4]

Er bod hud a lledrith yn bodoli mewn llawer o'i gwaith, nid yw'n cael ei ddefnyddio fel ateb hawdd ond mae'n dilyn rheolau ac yn cymryd ynni o'r dewiniaid. Yn gyffredinol, caiff y lleoliadau anarferol eu rhesymoli fel bydysawdau amgen.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Dirgelwch: Benjamin January[golygu | golygu cod]

  • A Free Man of Color (1997)
  • Fever Season (1998)
  • Graveyard Dust (1999)
  • Sold Down the River (2000)
  • Die upon a Kiss (2001)
  • Wet Grave (2002)
  • Days of the Dead (2003)
  • Dead Water (2004)
  • Dead and Buried (2010)[5]
  • The Shirt On His Back (2011)[6]
  • Ran Away (2011)[7]
  • Good Man Friday (2013)[8]
  • Crimson Angel (2014)[9]
  • Drinking Gourd (2016) [10]
  • Murder in July (2017) [11]
  • Cold Bayou (2018) [12]

Storiau byrion[golygu | golygu cod]

  • "Libre" (2006, stori fer yn Ellery Queen’s Mystery Magazine, Tachwedd 2006, rhifyn Salute to New Orleans.)
  • "There Shall Your Heart Be Also" (2007, stori fer yn New Orleans Noir, gol. Julie Smith.)
  • "A Time to Every Purpose Under Heaven" (2010), stori fer.

Ffeithiol-hanesyddol[golygu | golygu cod]

  • Search the Seven Hills [yn wreiddiol: The Quirinal Hill Affair] (1983)
  • The Emancipator's Wife (2005)
  • Patriot Hearts (2007)
  • Homeland: A Novel (2009)

Abigail Adams Mysteries (gyda Barbara Hamilton)[golygu | golygu cod]

  • The Ninth Daughter (2009)
  • A Marked Man (2010)
  • Sup with the Devil (2011)

Clytweithiau o storiau byrion Sherlock Holmes[golygu | golygu cod]

  • "The Adventure of the Antiquarian’s Niece" (2003, Shadows Over Baker Street, gol. Michael Reaves & John Pelan)
  • "The Dollmaker of Marigold Walk" (2003, My Sherlock Holmes, gol. Michael Kurlan)
  • "The Lost Boy" (2008, Gaslight Grimoire, gol. J. R. Campbell a Charles Prepolec)

Anne Steelyard: The Garden of Emptiness[golygu | golygu cod]

  • An Honorary Man (2008, nofel graffig)
  • The Gate of Dreams and Starlight (2009, nofel graffig)
  • A Thousand Waters (2011, nofel graffig)

Darwath[golygu | golygu cod]

The Darwath Trilogy[golygu | golygu cod]

  • The Time of the Dark (1982)
  • The Walls of Air (1983)
  • The Armies of Daylight (1983)

Darwath novels[golygu | golygu cod]

  • Mother of Winter (1996)
  • Icefalcon's Quest (1998)
  • "Pretty Polly" (2010)

Sun Wolf and Starhawk[golygu | golygu cod]

  • The Ladies of Mandrigyn (1984)
  • The Witches of Wenshar (1987)
  • The Unschooled Wizard (The Ladies of Mandrigyn & The Witches of Wenshar omnibus; 1987)
  • The Dark Hand of Magic (1990)
  • "A Night with the Girls" (2010)
  • "Fairest In The Land" (2011)

Winterlands[golygu | golygu cod]

  • Dragonsbane (1985)
  • Dragonshadow (1999)
  • Knight of the Demon Queen (2000)
  • Dragonstar (2002)
  • Princess (2010)

The Windrose Chronicles[golygu | golygu cod]

  • The Silent Tower (1986)
  • The Silicon Mage (1988)
  • Darkmage (1988, omnibws o'r The Silent Tower a The Silicon Mage)
  • Dog Wizard (1993)
  • Stranger at the Wedding (a gyhoeddwyd hefyd dan y teitl Sorcerer's Ward) (1994)
Windrose
  • "Firemaggot" (2010)
  • "Corridor" (2011)
  • "Plus-One" (2012)
  • "Personal Paradise" (2014)
  • "Zénobie" (2015)[13]
  • "...Pretty Maids All in a Row" (2015)

Star Trek Universe[golygu | golygu cod]

  • Ishmael (1985)
  • Ghost-Walker (1991)
  • Crossroad (1994)

James Asher, Vampire Novels[golygu | golygu cod]

  1. Those Who Hunt the Night, AKA Immortal Blood (UK title) (1988; enillydd Gwobr "Best Horror Novel in 1989")
  2. Traveling with the Dead (1995; enillydd Gwobr Lord Ruthven, 1996)
  3. Blood Maidens (2010)
  4. Magistrates of Hell (2012)
  5. The Kindred of Darkness (2014)
  6. Darkness on His Bones (2015)
  7. Pale Guardian (U.K. 2016, U.S. 2017)[14]
  8. Prisoner of Midnight (U.S. 2019)[15]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051008g. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051008g. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Barbara Hambly". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Barbara HAMBLY". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Barbara Hambly".
  4. "Review of female characters in Barbara Hambly novels" Archifwyd 2006-11-14 yn y Peiriant Wayback., Strange Horizons
  5. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  6. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  7. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  8. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  9. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  10. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  11. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 13 Awst 2018.
  12. "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 13 Awst 2018.
  13. "Smashwords – About Barbara Hambly". Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2015.
  14. "Severn House". severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  15. "Severn House". severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 3 Mawrth 2019.