Babel (ffilm 2006)

Oddi ar Wicipedia
Babel

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Alejandro González Iñárritu
Cynhyrchydd Steve Golin
Jon Kilik
Ysgrifennwr Guillermo Arriaga
Serennu Brad Pitt
Cate Blanchett
Gael García Bernal
Kōji Yakusho
Adriana Barraza
Rinko Kikuchi
Nathan Gamble
Elle Fanning
Cerddoriaeth Gustavo Santaolalla
Golygydd Douglas Crise
Stephen Mirrione
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Vantage
Dyddiad rhyddhau 27 Hydref 2006 (cyfyngedig)
10 Tachwedd 2006 (cyffredinol)
Amser rhedeg 143 munud
Gwlad Siapan
Mecsico
Moroco
UDA
Iaith Saesneg
Sbaeneg
Arabeg
Ffrangeg
Siapaneg
Iaith Arwyddo Siapaneg
Berber
Gwefan swyddogol
Adolygiad BBC Cymru'r Byd
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Babel (2006) yn ffilm a gyfarwyddwyd gan Alejandro González Iñárritu ac a ysgrifennwyd gan Guillermo Arriaga.

Mae Babel yn ffilm sy'n cynnwys sawl stori wahanol sy'n digwydd ym Moroco, Siapan, Mecsico a'r UDA. Roedd y ffilm yn gyd-gynhyrchiad nifer o gwmnïau cynhyrchu wedi'u lleoli yn Ffrainc, Mecsico a'r Unol Daleithiau. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngwyl Ffilmiau Cannes yn 2006 ac yna i gynulleidfaoedd yn Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Toronto a Gŵyl Ffilmiau Zagreb. Rhyddhawyd y ffilm mewn dinasoedd dethol yn yr Unol Daleithiau ar y 27ain o Hydref, 2006 gyda'r rhyddhad cyffredinol y ffilm ar y 10fed o Dachwedd, 2006. Ar y 15fed o Ionawr, 2007, enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Ddrama Orau. Cafodd ei enwebu am saith o Wobrau'r Academi yn cynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau, dau enwebiad am yr Actores Gefnogol Orau ac un enwebiad am y Sgôr Wreiddiol Orau.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.