Brad Pitt
Brad Pitt | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Brad Pitt ![]() |
Ganwyd | William Bradley Pitt ![]() 18 Rhagfyr 1963 ![]() Shawnee ![]() |
Man preswyl | Springfield, Missouri, Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llais, model, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd teledu ![]() |
Taldra | 1.8 metr ![]() |
Tad | William Alvin Pitt ![]() |
Mam | Jane Etta Hillhouse ![]() |
Priod | Jennifer Aniston, Angelina Jolie ![]() |
Partner | Juliette Lewis, Gwyneth Paltrow, Jennifer Aniston, Angelina Jolie ![]() |
Plant | Maddox Chivan Jolie-Pitt, Shiloh Nouvel Jolie-Pitt, Pax Thien Jolie-Pitt, Zahara Marley Jolie-Pitt, Knox Léon Jolie-Pitt, Vivienne Marcheline Jolie-Pitt ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm Boston i'r Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Genedlaethol Adolygwyr Ffilm i'r Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm San Diego i'r Perfformiad Gorau gan Ensemble, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr Rembrandt, Saturn Award for Best Supporting Actor, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Golden Globes, British Academy Film Awards, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 ![]() |
Actor a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.
Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Seven a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi anturus Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Wedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, cychwynodd berthynas gyda'r actores Angelina Jolie a priododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair 'Brangelina'. Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt tri o blant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[1]
Gwragedd[golygu | golygu cod]
- Jennifer Aniston (2000-2005)
- Angelina Jolie
Plant[golygu | golygu cod]
Ffilmiau[golygu | golygu cod]
- Dark Side Of The Sun (1988)
- Across the Tracks (1991)
- Thelma & Louise (1991)
- A River Runs Through It (1992)
- Interview With The Vampire (1994)
- Legends of the Fall (1994)
- Se7en (1995)
- Twelve Monkeys (1997)
- Seven Years in Tibet (1997)
- Meet Joe Black (1998)
- Fight Club (1999)
- Ocean's Eleven (2001)
- Troy (2004)
- Mr. & Mrs. Smith (2005)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Brangelina ‘yn ysgaru’ , Golwg360, 20 Medi 2016. Cyrchwyd ar 21 Medi 2016.