Gwyneth Paltrow
Gwyneth Paltrow | |
---|---|
Ganwyd | Gwyneth Kate Paltrow 27 Medi 1972 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, person busnes, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor, cyfarwyddwr ffilm |
Swydd | prif weithredwr |
Taldra | 175 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | Time's Up |
Tad | Bruce Paltrow |
Mam | Blythe Danner |
Priod | Chris Martin, Brad Falchuk |
Partner | Brad Pitt, Ben Affleck, Robert Sean Leonard, Donovan Leitch, Luke Wilson |
Plant | Moses Martin, Apple Martin |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Q41043454, Gwobr Crystal, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau'r Academi, Golden Globes, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Emmy 'Primetime' |
Gwefan | https://gwynethpaltrow.com/ |
Actores a chantores yw Gwyneth Kate Paltrow (ganwyd 27 Medi 1972) o Los Angeles, Califfornia. Yn ferch i Brice Paltrow a Blythe Danner, gadawodd Paltrow ei chwrs prifysgol er mwyn dilyn gyrfa ym myd actio. Dechreuodd ei gyrfa yn perfformio mewn theatrau ym 1990, a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm y flwyddyn ganlynol. Mae ei ffilmiau cynharaf yn cynnwys y ffilmiau llwyddiannus Se7en (1995), Emma (1996), lle chwaraeodd y prif ran, a Sliding Doors (1998). Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei pherfformiad yn Shakespeare in Love (1998); enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gorau, Gwobr Golden Globe a dau o wobrau'r Chymdeithas yr Actorion Sgrîn am Brif Actores Eithriadol ac fel aelod o Gast Eithriadol, ynghyd â nifer o wobrau ac enwebiadau eraill.
Parhaodd ei llwyddiant gyda rôlau mewn ffilmiau fel The Talented Mr. Ripley (1999) a Shallow Hal (2001). Serennodd hefyd yn y ffilm Duets (2000), a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan ei thad Bruce Paltrow. Canodd Gwyneth Paltrow ddwy gân ar y trac sain a bu'r caneuon yn llwyddiannus mewn rhai gwledydd. Derbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm am Proof (2005). Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ffilm Iron Man (2008).
Yn aml, mae ei bywyd personol wedi derbyn llawer o sylw gan y wasg; bu'n canlyn â Brad Pitt o 1995 tan 1997, a phriododd Chris Martin, prif leisydd y band roc Seisnig Coldplay, yn 2003. Maent yn rhieni i ddau o blant, Apple Blythe Alison Martin (g. 2004) a Bruce Anthony Martin (g. 2006). Dywedodd Paltrow iddi leihau ei baich gwaith ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cwpl yn gwahanu ar ôl bod yn briod am ddeng mlynedd.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1991 | Shout | Rebecca | |
Hook | Wendy Darling Ifanc | ||
1993 | Deadly Relations | Carol Ann Fagot | |
Malice | Paula Bell | ||
Flesh and Bone | Ginny | ||
1994 | Mrs. Parker and the Vicious Circle | Paula Hunt | |
1995 | Higher Learning | Myfyriwr | Di-enw |
Jefferson in Paris | Patsy Jefferson | ||
Se7en | Tracy Mills | Enwebwyd am - Gwobr Saturn am yr Actores Gefnogol Orau | |
Moonlight and Valentino | Lucy Trager | ||
1996 | Hard Eight | Clementine | |
The Pallbearer | Julie DeMarco | ||
Emma | Emma Woodhouse | Gwobr Satellite Award am yr Actores Orau - Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd | |
1998 | Out of the Past | Sarah Orne Jewett | llais |
Sliding Doors | Helen Quilley | Cymdeithas y Beirniaid Ffilm Rwsiaidd - Actores Orau o Dramor Gwobr am yr Actores Orau Hefyd am Shakespeare in Love Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm San Diego Hefyd am Shakespeare in Love | |
Great Expectations | Estella | ||
Hush | Helen Baring | ||
A Perfect Murder | Emily Bradford Taylor | ||
Shakespeare in Love | Viola De Lesseps | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm sioe gerdd neu gomedi Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actores mewn prif ran Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am y Cast Gorau - Ffilm Gwobr Empire am yr Actores Orau Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Joseph Fiennes Enwebwyd - Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Ran Enwebwyd - Gwobr Satellite am yr Actores Orau mewn Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Perfformiad Benywaidd Gorau | |
1999 | The Talented Mr. Ripley | Marge Sherwood | |
2000 | The Intern | Ei hun | Heb gydnabyddiaeth |
Duets | Liv | ||
Bounce | Abby Janello | Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Ben Affleck | |
2001 | The Anniversary Party | Skye Davidson | |
The Royal Tenenbaums | Margot Tenenbaum | Enwebwyd - Gwobr Satellite am y Ffilm Gomedi neu Sioe Gerdd Orau Enwebwyd - Cymdeithas y Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau | |
Shallow Hal | Rosemary Shanahan | ||
2002 | Searching for Debra Winger | Ei hun | Ffilm ddogfen |
Austin Powers in Goldmember | Gwyneth Paltrow fel Dixie Normous yn 'Austinpussy' | ||
Possession | Maud Bailey | ||
2003 | View from the Top | Donna Jensen | |
Sylvia | Sylvia Plath | ||
2004 | Sky Captain and the World of Tomorrow | Polly Perkins | Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Jude Law |
2005 | Proof | Catherine | Enwebwyd - Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm |
2006 | Infamous | Kitty Dean | |
Love and Other Disasters | Hollywood Jacks | ||
Running with Scissors | Hope Finch | ||
2007 | The Good Night | Dora | |
2008 | Iron Man | Virginia "Pepper" Potts | |
Two Lovers | Michelle | ||
Spain... on the road Again | Ei hun | Cyfres deithio am fwyd 13 rhaglen gyda Mario Batali, Mark Bittman, a Claudia Bassols | |
2009 | King Lear | Regan | |
2010 | Iron Man 2 | Virginia "Pepper" Potts | |
2010 | Country Strong | Kelly Canter | |
2011 | Glee: The 3D Concert Movie | Holly Holliday | Heb gydnabyddiaeth[1] |
2011 | Contagion | Beth Emhoff | |
2012 | Thanks for Sharing | Phoebe | |
2012 | The Avengers | Pepper Potts | |
2013 | Iron Man 3 | Pepper Potts | |
2015 | Mortdecai | Johanna Mortdecai |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Maloy, Sarah (June 17, 2011). "'Glee Live!' Surprises With Paltrow & Lynch Appearances, a Proposal". Billboard. Prometheus Global Media.