Chris Martin
Chris Martin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Mawrth 1977 ![]() Caerwysg ![]() |
Man preswyl | Los Angeles, Efrog Newydd, El Peñéu ![]() |
Label recordio | Parlophone Records, Third Man Records, Atlantic Records, Universal Music Group, Warner Music Group, Fierce Panda Records, EMI, Capitol Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr, gitarydd, cynhyrchydd recordiau, dyngarwr, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, person cyhoeddus ![]() |
Arddull | roc amgen ![]() |
Math o lais | bariton ![]() |
Taldra | 1.86 metr ![]() |
Tad | Anthony John Martin ![]() |
Mam | Alison Fleming ![]() |
Priod | Gwyneth Paltrow ![]() |
Partner | Dakota Johnson, Annabelle Wallis, Jennifer Lawrence ![]() |
Plant | Apple Martin, Moses Martin ![]() |
Perthnasau | Muriel Pattison, David Martin, Elisabeth Jane Martin, William Willett ![]() |
Gwefan | http://www.coldplay.com ![]() |
Mae Christopher Anthony John Martin (ganwyd 2 Mawrth 1977), neu Chris Martin, yn ganwr, cyfansoddwr a cherddor Saesneg sy'n brif aelod o'r band byd eang Saesneg, Coldplay. Cafodd Chris Martin ei eni ar yr ail o Fawrth 1977 yn Caerwysg, Dyfnaint. Roedd Chris Martin yn fyrfyriwr ym Mhrifysgol Coleg Llundain lle wnaeth sefydlu grŵp roc yn 1996 o'r enw 'Starfish' gyda Jonny Buckland, Guy Berryman a Will Champion. Fe wnaeth enw'r grŵp yma newid i Coldplay erbyn 1998.
Fe wnaeth Chris Martin, yn ogystal ag aelodau eraill Coldplay, gael cydnabyddiaeth byd-eang yn dilyn rhyddhau eu sengl 'Yellow' yn 2000 a wnaeth hefyd arwain at eu enwebiad cyntaf fel band am y can roc orau (Gwobr Grammy). Mae'r band hefyd wedi ennill Gwobr Grammy am eu halbymau 'A Rush of Blood to the Head' a 'Viva la Vida'. Gwerthodd Coldplay dros 100 miliwn o recordiau ac maen nhw'n cael eu hadnabod fel un o'r bandiau mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig yn dilyn ennill llu o wobrwyau. Fe ymddangosodd Chris Martin yn rhestr 'Darbett's' yn 2017 fel un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y DU.
Gwybodaeth Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe briododd Chris Martin gyda'r actores Americanaidd Gwyneth Paltrow yn 2003 ond fe gafodd y ddau ysgariad 13 mlynedd wedyn yn 2016. Yn 2017, fe briododd Chris Martin gyda Dakota Johnson. Mae can Martin ddau o blant.