Fight Club
Gwedd
Cyfarwyddwr | David Fincher |
---|---|
Cynhyrchydd | Art Linson Cean Chaffin Ross Grayson Bell |
Ysgrifennwr | Sgript: Jim Uhls Yn seiliedig ar Fight Club gan Chuck Palahniuk |
Serennu | Brad Pitt Edward Norton Helena Bonham Carter |
Sinematograffeg | Jeff Cronenweth |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Regency Enterprises |
Dosbarthydd | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 15 Hydref 1999 |
Amser rhedeg | 139 munud |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $63 miliwn |
Refeniw gros | $100.9 miliwn |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm Americanaidd o 1999 ydy Fight Club, sy'n seiliedig ar nofel 1996 o'r un enw gan Chuck Palahniuk. Cyfarwyddwyd y ffilm gan David Fincher ac mae'n serennu Edward Norton, Brad Pitt a Helena Bonham Carter.
Chwaraea Norton ran y prif gymeriad di-enw, dyn cyffredin sydd wedi syrffedu ar ei fywyd a'i waith diflas. O ganlyniad, ffurfia "glwb ymladd" gyda gwneuthuriwr sebon o'r enw Tyler Durden. Chwaraeir rhan Durden gan Brad Pitt, a ffurfia berthynas rhyngddo ef â gwraig anfoesol, Marla Singer, a chwaraeir gan Bonham Carter.