Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto

Oddi ar Wicipedia

Mae Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto yn ŵyl ffilmiau a fynychir gan aelodau'r cyhoedd ac a gynhelir yn flynyddol ym mis Medi yn Toronto, Ontario. Dechreua'r ŵyl ar nos Iau ar ôl Diwrnod Llafur yng Nghanada (sef y dydd Llun cyntaf ym mis Medi) ac mae'n para am ddeng niwrnod. Dangosir rhwng 300 a 400 o ffilmiau ar tua 23 sgrîn gwahanol mewn lleoliadau amrywiol ledled Toronto. Daw dros 300,000 o'r cyhoedd a chynulleidfaoedd o'r diwydiant ffilm i'r ŵyl.

Dechreuodd yr ŵyl ym 1976 a bellach caiff ei hystyried fel un o brif wyliau ffilmiau'r byd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]