Artaxerxes I, brenin Persia
Gwedd
| Artaxerxes I, brenin Persia | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 g CC |
| Bu farw | Rhagfyr 424 CC Susa |
| Dinasyddiaeth | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Swydd | Uwch Frenin, King of Kings |
| Rhagflaenydd | Xerxes I, brenin Persia |
| Tad | Xerxes I, brenin Persia |
| Mam | Amestris |
| Priod | Damaspia |
| Partner | Alogyne of Babylon, Cosmartidene, Andia |
| Plant | Sogdianus, brenin Persia, Xerxes II, brenin Persia, Darius II, brenin Persia, Parysatis, Arsites |
| Perthnasau | Hieramenes |
| Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 465 CC a 424 CC oedd Artaxerxes I (Hen Berseg: Artaxšacā, Perseg: اردشیر یکم (Ardeshir), Groeg: Ἀρταξέρξης; bu farw 424 CC).
Roedd yn fab i Xerxes I, brenin Persia, ac olynodd ef ar yr orsedd yn 465 CC. Ceisiodd wanhau Athen trwy ariannu ei gelynion yng Ngwlad Groeg. Hyn a achosodd i'r Atheniaid symud trysorfa Cynghrair Delos o ynys Delos i'r Acropolis yn Athen. Yn 449 CC, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Athen, Argos a Persia.
Mae Artaxerxes yn ymddangos yn Llyfr Ezra yn y Beibl, lle mae'n rhoi llywodraeth ar yr Iddewon i Ezra. Gadawodd Ezra ddinas Babilon yn 457 CC a theithio i ddinas Jeriwsalem.
Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes II.
| Rhagflaenydd: Xerxes I |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 464 CC – 424 CC |
Olynydd: Xerxes II |
| Rhagflaenydd: Xerxes I |
Brenin yr Aifft 464 CC – 424 CC |
Olynydd: Xerxes II |