Sogdianus, brenin Persia
Jump to navigation
Jump to search
Brenin Ymerodraeth Persia am gyfnod byr yn 424 - 423 CC oedd Sogdianus (bu farw 423 CC).
Roedd Sogdianus yn fab gordderch i Artaxerxes I; ei fam oedd Alogyne o Fabilon. Olynwyd Artaxerxes I gan ei fab Xerxes II, ei unig fab gyda'i frenhines, Damaspia; fodd bynnag, ymddengys na chafodd ei gydnabod fel brenin tua allan i Bersia, ac efallai i Sogdianus gael ei gydnabod yn Elam.
Wedi i Xerxes II deyrnasu am 45 diwrnod, llofruddiwyd ef tra'r oedd yn feddw gan Pharnacyas a Menostanes ar orchymyn Sogdianus. Chwe mis yn ddiweddarach, llofruddiwyd Sogdianus ei hun gan Arbarios, pennaeth y marchogion, a daeth ei hanner brawd Darius II yn frenin.
Rhagflaenydd : Xerxes II |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Sogdianus |
Olynydd : Darius II |