Arfbais Bwrwndi

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Bwrwndi

Wyneb llew ar darian goch o flaen tair gwaywffon yw arfbais Bwrwndi. O dan y darian mae sgrôl sydd yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unité, Travail, Progrès. Mae'r gwaywffyn yn cynrychioli grwpiau ethnig y wlad.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 71.