Giovanni Caboto: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Fforiwr]] a [[morlywiwr]] o [[Eidalwr]] oedd [[Giovanni Caboto]] ([[Feniseg]]: Zuan Chabotto, {{iaith-en|John Cabot}}; tua [[1450]] – tua [[1498]]) sy'n nodedig am ei ymdrech i ganfod [[Tramwyfa'r Gogledd Orllewin]].
[[Fforiwr]] a [[morlywiwr]] o [[Eidalwr]] oedd '''Giovanni Caboto''' ([[Feniseg]]: Zuan Chabotto, {{iaith-en|John Cabot}}; tua [[1450]] – tua [[1498]]) sy'n nodedig am ei ymdrech i ganfod [[Tramwyfa'r Gogledd Orllewin]].


Mae'n bosib iddo gael ei eni yn [[Genoa]]. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd gan [[Gweriniaeth Fenis|Weriniaeth Fenis]] rhwng 1471 a 1473, braint a oedd yn mynnu preswyl yn Fenis am 15 mlynedd, felly mae'n debyg i'w deulu symud yno pan oedd Giovanni yn fachgen.
Mae'n bosib iddo gael ei eni yn [[Genoa]]. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd gan [[Gweriniaeth Fenis|Weriniaeth Fenis]] rhwng 1471 a 1473, braint a oedd yn mynnu preswyl yn Fenis am 15 mlynedd, felly mae'n debyg i'w deulu symud yno pan oedd Giovanni yn fachgen.

Fersiwn yn ôl 20:50, 10 Rhagfyr 2019

Giovanni Caboto
Ganwydc. 1450 Edit this on Wikidata
Gaeta Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1498 Edit this on Wikidata
Gogledd Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethgestor, morwr, masnachwr caethweision Edit this on Wikidata
TadGiulio Caboto Edit this on Wikidata
PlantSebastiano Caboto Edit this on Wikidata

Fforiwr a morlywiwr o Eidalwr oedd Giovanni Caboto (Feniseg: Zuan Chabotto, Saesneg: John Cabot; tua 1450 – tua 1498) sy'n nodedig am ei ymdrech i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin.

Mae'n bosib iddo gael ei eni yn Genoa. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd gan Weriniaeth Fenis rhwng 1471 a 1473, braint a oedd yn mynnu preswyl yn Fenis am 15 mlynedd, felly mae'n debyg i'w deulu symud yno pan oedd Giovanni yn fachgen.

Map o fordaith Giovanni Caboto yn 1497.

Yn 1497 danfonwyd Caboto gan Harri VII, brenin Lloegr, gyda chefnogaeth marsiandwyr Bryste, i fordwyo ffordd drwy'r gogledd orllewin i Asia. Roedd ganddo brofiad o fasnach y Môr Canoldir, ac mae'n debyg iddo deithio i Fecca a chael ei syfrdanu gan y sbeisys, sidan, a gleiniau ac amryw nwyddau eraill oedd ar werth. Dygwyd y rheiny dros y tir, drwy gyfrwng y deithfintai, ar hyd Ffordd y Sidan, o wledydd yr India a'r Dwyrain Pell. Ysbrydolwyd Caboto i chwilota am lwybr masnach newydd dros y môr, ar draws hemisffer y gorllewin. Aeth i Loegr, gan nad oedd yn medru canfod cefnogaeth ariannol yn yr Eidal. Hwyliodd o Fryste ym Mai 1497 yn y llong Mathew, gyda chriw o ddeunaw o ddynion, â'r nod o gyrraedd Cathay (Tsieina) neu Cipangu (Japan). Yn debyg i Cristoforo Colombo, a droediodd sawl ynys yn y Caribî, credodd Caboto ei fod yn sbïo ar gyrion dwyreiniol Asia pan ganfuwyd ynys Newfoundland. Hawliodd y tir hwnnw yn enw'r Brenin Harri VII, a dychwelodd i Loegr am ragor o gyflenwadau. Er iddo ond dystio i ganfod pysgodfeydd enfawr yng ngogledd-orllewin yr Iwerydd, yr ardal a elwir bellach Traethellau'r Tir Newydd, ac heb brofi cyfleoedd masnachol eraill, perswadiodd y Brenin Harri i gefnogi mordaith arall. Ym Mai 1498, cychwynnodd Caboto ar ei ail fordaith i geisio cyrraedd y Dwyrain Pell, gyda phum llong a thri chant o ddynion, a methiant a fu'r ymdrech honno. Yn hanesyddol, credid i'r holl longau ddiflannu, ond mae tystiolaeth sy'n dangos i rai o'r morwyr ddychwelyd i Loegr. Ni wyddys tynged Giovanni Caboto. Rhyw hanner can mlynedd wedi ei farwolaeth, sefydlwyd Cwmni'r Anturiaethwyr Masnachol yn Llundain yn 1551 gan ei fab Sebastiano Caboto a fforwyr eraill.[1]

Cyfeiriadau

  1. Peter D. Jeans, Seafaring Lore and Legend (Camden, Maine: International Marine/McGraw-Hill, 2004), tt. 77–78.

Darllen pellach

  • James A. Williamson, The Cabot Voyages and Bristol Discovery under Henry VII (1962).