Sidi Bouzid, Tunisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B newid hen enw, replaced: Tunisia → Tiwnisia using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Tiwnisia}}}} |
|||
Dinas yn [[Tiwnisia|Nhiwnisia]] yw '''Sidi Bouzid''' ([[Arabeg]]: سيدي بوزيد) neu '''Sidi Bou Zid''', sy'n brifddinas [[Sidi Bou Zid (talaith)|y dalaith o'r un enw]] yng nghanolbarth y wlad. Gyda phoblogaeth o 39,915 yn 2004, mae'n ganolfan weinyddol a ranbarthol. Masnach amaethyddol yw'r prif ddiwydiant. |
Dinas yn [[Tiwnisia|Nhiwnisia]] yw '''Sidi Bouzid''' ([[Arabeg]]: سيدي بوزيد) neu '''Sidi Bou Zid''', sy'n brifddinas [[Sidi Bou Zid (talaith)|y dalaith o'r un enw]] yng nghanolbarth y wlad. Gyda phoblogaeth o 39,915 yn 2004, mae'n ganolfan weinyddol a ranbarthol. Masnach amaethyddol yw'r prif ddiwydiant. |
||
Fersiwn yn ôl 21:11, 5 Hydref 2019
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 429,912 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sidi Bouzid |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 35.0381°N 9.4858°E |
Cod post | 9100 |
Dinas yn Nhiwnisia yw Sidi Bouzid (Arabeg: سيدي بوزيد) neu Sidi Bou Zid, sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yng nghanolbarth y wlad. Gyda phoblogaeth o 39,915 yn 2004, mae'n ganolfan weinyddol a ranbarthol. Masnach amaethyddol yw'r prif ddiwydiant.
Fe'i lleolir 135 km à i'r gorllewin o Sfax ac arfordir y Môr Canoldir a 265 km i'r de o'r brifddinas, Tiwnis.
Hanes diweddar
Ar 18 Rhagfyr 2010, cafwyd protestiadau mawr yn Sidi Bouzid ar ôl i ddyn ifanc gyda gradd prifysgol a geisiai ennill ei fywiolaeth drwy werthu llysiau o gert llaw ladd ei hun ar ôl i'r heddlu ei atal a chymryd ei gert i ffwrdd am nad oedd ganddo drwydded swyddogol.[1] Mae'r rhanbarth, fel llawer o leoedd yn Nhiwnisia, yn dioddef lefel diweithdra uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn cynnwys nifer gyda chymwysterau coleg a phrifysgol. Ymledodd yr anghydfod i dref gyfagos lle cafwyd gwrthdaro ar raddfa eang rhwng protestwyr a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch. Erbyn diwedd Rhagfyr 2010 roedd y gwrthdystio wedi ymledu i rannau eraill o Diwnisia, yn cynnwys Tiwnis, Sfax, El Kef a sawl dinas a thref arall, ac roedd grwpiau ac unigolion sy'n gwrthwynebu llywodraeth Zine Ben Ali yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel "gwrthryfel poblogaidd" yn erbyn y llywodraeth yn enw democratiaeth, gwaith a hawliau dynol.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ "Tunisie : heurts entre manifestants et forces de l'ordre à Sidi Bouzid", Le Nouvel Observateur, 19 Rhagfyr 2010.
- ↑ Newyddion Al-Jazeera, 20 Rhagfyr 2010.