Zine el-Abidine Ben Ali

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Zine Ben Ali)
Jump to navigation Jump to search
Zine el-Abidine Ben Ali
Zine El Abidine Ben Ali.jpg
Ganwyd 3 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Hammam Sousse Edit this on Wikidata
Man preswyl Sawdi Arabia, Tunisia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ecole Spéciale Militaire de Saint-Cyr
Galwedigaeth gwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
Swydd President of Tunisia, chairperson of the Organisation of African Unity, Head of Government of Tunisia, Head of Government of Tunisia, llysgennad Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Socialist Destourian Party, Constitutional Democratic Rally Edit this on Wikidata
Priod Leïla Ben Ali, Naïma Ben Ali, Leïla Ben Ali Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Isabela'r Babyddes, Urdd seren Romania, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd Edit this on Wikidata

Zine el-Abidine Ben Ali (Arabeg: زين العابدين بن علي), (ganed 3 Medi, 1936, yn Hammam Sousse), oedd arlywydd Tiwnisia o 7 Tachwedd, 1987 hyd 14 Ionawr 2011. Bu'n arweinydd yr Rassemblement Constitutionnel Démocratique (RCD) hefyd. Mae'n briod â Leila Trabesli.

Yn frodor o Hammam Sousse, ger Sousse lle gweithiai ei dad yn y porth, cafodd ei fagu mewn ardal dosbarth gweithiol yn y dref honno. Cymerodd ran yn y gwrthryfel yn erbyn y Ffrancod yn 1956 ond heb fod yn un o'r arweinwyr amlycaf. Yn y chwedegau cynnar aeth i'r Unol Daleithiau i dderbyn hyfforddiant milwrol. Cafodd sawl swydd ym myddin Tiwnisia a'r gwasanaethau diogelwch cyn dod yn weinidog yn Swyddfa Cartref y wlad, yn llywodraeth y prif weinidog Rachid Sfar, ac yna daeth yn brif weinidog ei hun. Ben Ali oedd yn gyfrifol am orfodi Habib Bourguiba, Arlywydd cyntaf Tiwnisia ac arwr y rhyfel dros annibyniaeth, i "ymddeol am resymau meddygol." Coup menyg melfed oedd hyn ym marn rhai.

Y tu allan i'r wlad a rhai cylchoedd diplomyddol (e.e. UDA) y farn gyffredinol oedd bod Ben Ali yn unben,[1] gan fod y régime Tiwnisiaidd yn unbleidiol i bob pwrpas[2] sy'n cyfyngu rhyddid barn.[3]

Dymchwel Ben Ali[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Rhagfyr 2010 dechreuodd gyfres brotestiadau poblogaidd yn erbyn Ben Ali a'i lywodraeth a elwir gan ei wrthwynebwyr yn "intifada Tiwnisia. Collodd ugeiniau o bobl eu bywydau ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu. Ar 14 Ionawr, gyda'r wlad mewn argyfwng ac anhrefn, daeth rheolaeth Ben Ali i ben mewn coup palas gyda chefnogaeth y Fyddin. Ar ddiwedd y pnawn ymddangosodd y prif weinidog Mohamed Ghannouchi ar TV7. Cyhoeddodd "nad oedd Ben Ali yn alluog i gyflawni ei ddyletswyddau fel arlywydd" a dywedodd ei fod yn cymryd drosodd yn ei le hyd nes y byddai'n bosibl i gynnal etholiad. Yn nes ymlaen adroddwyd fod Ben Ali, aelodau o'i deulu estynedig ac eraill, wedi gadael y wlad. Cafodd ei droi yn ôl o Baris ar ôl i Nicolas Sarkozy wrthod ei dderbyn a hedfanodd oddi yno i Cagliari lle cafodd yr awyren danwydd[4] i Jeddah yn Sawdi Arabia lle cafodd aros mewn un o balasau'r teulu brenhinol; beirniadwyd awdurdodau Saudi yn hallt am eu penderfyniad.[5] Deuddydd yn ddiweddarach, adroddwyd bod ei wraig Leila Ben Ali wedi cymryd 1.5 tonne o aur gyda hi pan adawodd Tiwnisia.[6]

Camrau yn erbyn Ben Ali a'i deulu estynedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ei gwymp ganol mis Ionawr 2011, cafwyd yr ymgais cyntaf i adennill y cyfoeth a "ysbeilwyd" o Tiwnisia gan Ben Ali a'i deulu estynedig. Ar 17 Ionawr, ffeiliodd y cyfreithiwr Swisaidd Ridha Ajmi gais cyfreithiol i rewi pob ased o eiddo Ben Ali yn y Swistir, a dywedodd hefyd ei fod yn ceisio warantau arestio rhyngwladol yn erbyn y cyn-arlywydd, ei wraig Leila a'r cyn weinidog materion mewnol am "orchymyn yr heddlu i saethu ar brotestwyr".[7]

Ar 26 Ionawr dywedodd Lazhar Karoui Chebbi, Gweinidog Cyfiawnder Tiwnisia, fod Tiwnisia wedi cyhoeddi warant arest rhyngwladol, a'i roi i Interpol, yn galw am arestio Ben Ali, ei wraig Leïla ac aelodau eraill o'i deulu estynedig "am gael gafael ar eiddo cyhoeddus yn anghyfreithlon" ac "am drosglwyddo arian dramor yn anghyfreithlon". Cyhoeddwyd warant arall i arestio chwech aelod o'r cyn warchodlu arlywyddol, yn cynnwys ei phennaeth Ali Seriati, "am gynllwyno yn erbyn diogelwch y Wladwriaeth ac am annog trais arfog".[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Habib Bourguiba
Arlywydd Tiwnisia
7 Tachwedd 1987
Olynydd:
''