Mantell dramor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
*2019: |
*2019: |
||
Cawod enfawr o fentyll tramor yn cael eu nodi dros y gogledd ar y cyfryngau cymdeithsol mewn mannau amrywiol ddechrau Awst<ref>Grwp Facebook Cymuned Llên Natur[https://www.facebook.com/groups/671177946410845/permalink/1073415482853754?sfns=mo]</ref> yn dilyn y pylsiad o dywydd eithriadol o gynnes o’r Sahara ddiwedd mis Gorffennaf. |
Cawod enfawr o fentyll tramor yn cael eu nodi dros y gogledd ar y cyfryngau cymdeithsol mewn mannau amrywiol ddechrau Awst<ref>Grwp Facebook Cymuned Llên Natur[https://www.facebook.com/groups/671177946410845/permalink/1073415482853754?sfns=mo]</ref> yn dilyn y pylsiad o dywydd eithriadol o gynnes o’r Sahara ddiwedd mis Gorffennaf. Nododd y [[Guardian]] ''This “painted lady summer” is the most significant since 2009, when 11m arrived in Britain.''[https://www.theguardian.com/environment/2019/jul/19/britons-urged-to-help-record-influx-of-painted-lady-butterflies] |
||
==Tiriogaeth== |
==Tiriogaeth== |
Fersiwn yn ôl 13:39, 3 Awst 2019
Vanessa cardui | |
---|---|
Rhan ucha'r adain | |
Tan yr adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Vanessa |
Is-enws: | Cynthia |
Rhywogaeth: | V. cardui |
Enw deuenwol | |
Vanessa cardui (Linnaeus, 10fed rhifyn: Systema Naturae, 1758) | |
Cyfystyron | |
Papilio cardui Linnaeus, 1758 |
Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.[1][2] Y gair amgen amdano yng ngogledd America ydy Cosmopolitan. Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin.
Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Mae'n edrych yn debyg i ddau rywogaeth arall: Vanessa virginiensis a Vanessa annabella. Y gair arall am fantell ydy "clogyn".
Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw.
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.
Digwyddiadau hanesyddol
”Hafau Mantell Dramor”
- 1879:
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, Canton Zürich gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.[3]
- 1994:
Ar yr 8fed Awst 1994 cofnododd rhywun a oedd ar fordaith yn y "Southwestern Approaches" dri glöyn byw - mentyll tramor - yn hedfan dros y tonnau. Mae'r fantell dramor yn ddiarhebol am ei allu i deithio pellteroedd meithion ac ar adegau o'r math caiff ei hel, glocwedd o gwmpas gwasgedd uchel, o Affrica i'r môr cyn cyrraedd glannau Cymru. Cafwyd cofnodion yn Nhywyddiadur Llên Natur o'r gloÿnnod yn cyrraedd ein glannau ychydig ar ôl hyn.[2]
- 2009:
Erbyn canol Mai eleni (2009), nid oeddwn wedi gweld yr un o'r gloÿnnod mawr praff yma yn yr ardd ers dwy flynedd. Ond dyma lanio yn Ffrainc ar wyliau a gweld rhif y gwlith ohonynt yn y dolydd o un pen y wlad i'r llall. Ai cenhedlaeth leol oedd y rhain ynteu mewnfudwyr? Cyrraedd yn ôl o Ffrainc ddechrau mis Mehefin a'r stori'n dew ary radio ac ymysg naturiaethwyr am y mentyll tramor yma hefyd - ia, roedden nhw wedi cyrraedd Cymru fach yn f'absenoldeb.
Y tywydd ffafriol o gwmpas y 26ain o'r mis oedd yn gyfrifol, a'u magwrfa oedd Mynyddoedd yr Atlas, Moroco, lle bu'n cenhedlu yn arbennig o lwyddiannus eleni yn ôl y son. Soniodd rhai ar wyliau yn y wlad honno am "filiynau" o loÿnnod yn symud dros ffrynt o 100Km. Dyma ymfudiad mwyaf y fantell dramor i Brydain erioed meddai un arbenigwr. Cafodd Rhys Jones "gannoedd" yn Aberdaron, a gwelodd Twm Elias dri wrth y Twll Du yng Nghwm Idwal, ymhell o'u cynefin arferol. [3]
- 2019:
Cawod enfawr o fentyll tramor yn cael eu nodi dros y gogledd ar y cyfryngau cymdeithsol mewn mannau amrywiol ddechrau Awst[4] yn dilyn y pylsiad o dywydd eithriadol o gynnes o’r Sahara ddiwedd mis Gorffennaf. Nododd y Guardian This “painted lady summer” is the most significant since 2009, when 11m arrived in Britain.[4]
Tiriogaeth
Mae'r V. cardui yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica a De America.
Bwyd
Ymhlith bwyd y siani flewog mae teulu'r Asteraceae gan gynnwys: Cirsium, Carduus,Centaurea, Arctium, Helianthus, ac Artemisia.[5] Mae naturiaethwyr wedi cofnodi dros 300 o fwydydd gwahanol. Yn yr ystafell ddosbarth, y bwyd gorau i'w ddefnyddio ydy paced o hadau blodau haul - y math sy'n cael ei ddefnyddio fel bwyd adar. Dylid rhoi'r rhain i'w socian mewn dŵr am 8 awr cyn eu gosod ar wyneb o bridd. Y dail sy'n cael ei fwyta ac nid yr hedyn caled.
Ffenoleg
Gan fod presenoldeb y fantell dramor yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar fewnfydwyr o dde Ewrop a gogledd Affrica mae ei ffenoleg yn dibynnu felly ar yr amodau tywydd sydd y caniatáu iddyn nhw wneud y daith (yn ogystal â'i ffenoleg yn eu gwledydd genedigol).
Mae'r anterth hafol a welir yn y graff i'w ddisgwyl ond mae cofnodion cynnar iawn (Chwefror) yn dangos nad yw patrwm eu hymddangosiad yn syml.
Cyffredinol
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell dramor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.
- ↑ Grwp Facebook Cymuned Llên Natur[1]
- ↑ Vanessa cardui, Butterflies of Canada