Mantell dramor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vanessa cardui
Rhan ucha'r adain
Tan yr adain
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Vanessa
Is-enws: Cynthia
Rhywogaeth: V. cardui
Enw deuenwol
Vanessa cardui
(Linnaeus, 10fed rhifyn: Systema Naturae, 1758)
Cyfystyron

Papilio cardui Linnaeus, 1758

Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.[1][2] Y gair amgen amdano yng ngogledd America ydy Cosmopolitan. Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin.

Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Mae'n edrych yn debyg i ddau rywogaeth arall: Vanessa virginiensis a Vanessa annabella. Y gair arall am fantell ydy "clogyn".

Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw.

2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.

Digwyddiadau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1879:

Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, Canton Zürich gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.[3]

  • 1994:

Ar yr 8fed Awst 1994 cofnododd rhywun a oedd ar fordaith yn y "Southwestern Approaches" dri glöyn byw - mentyll tramor - yn hedfan dros y tonnau. Mae'r fantell dramor yn ddiarhebol am ei allu i deithio pellteroedd meithion ac ar adegau o'r math caiff ei hel, glocwedd o gwmpas gwasgedd uchel, o Affrica i'r môr cyn cyrraedd glannau Cymru. Cafwyd cofnodion yn Nhywyddiadur Llên Natur o'r gloÿnnod yn cyrraedd ein glannau ychydig ar ôl hyn.[1]

  • 2009:

Erbyn canol Mai eleni (2009), nid oeddwn wedi gweld yr un o'r gloÿnnod mawr praff yma yn yr ardd ers dwy flynedd. Ond dyma lanio yn Ffrainc ar wyliau a gweld rhif y gwlith ohonynt yn y dolydd o un pen y wlad i'r llall. Ai cenhedlaeth leol oedd y rhain ynteu mewnfudwyr? Cyrraedd yn ôl o Ffrainc ddechrau mis Mehefin a'r stori'n dew ary radio ac ymysg naturiaethwyr am y mentyll tramor yma hefyd - ia, roedden nhw wedi cyrraedd Cymru fach yn f'absenoldeb.

Y tywydd ffafriol o gwmpas y 26ain o'r mis oedd yn gyfrifol, a'u magwrfa oedd Mynyddoedd yr Atlas, Moroco, lle bu'n cenhedlu yn arbennig o lwyddiannus eleni yn ôl y son. Soniodd rhai ar wyliau yn y wlad honno am "filiynau" o loÿnnod yn symud dros ffrynt o 100Km. Dyma ymfudiad mwyaf y fantell dramor i Brydain erioed meddai un arbenigwr. Cafodd Rhys Jones "gannoedd" yn Aberdaron, a gwelodd Twm Elias dri wrth y Twll Du yng Nghwm Idwal, ymhell o'u cynefin arferol. [2]

Tiriogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r V. cardui yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica a De America.

Ffilmiwyd yn 2009 ger Burgwald, Hesse, yr Almaen.

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith bwyd y siani flewog mae teulu'r Asteraceae gan gynnwys: Cirsium, Carduus,Centaurea, Arctium, Helianthus, ac Artemisia.[4] Mae naturiaethwyr wedi cofnodi dros 300 o fwydydd gwahanol. Yn yr ystafell ddosbarth, y bwyd gorau i'w ddefnyddio ydy paced o hadau blodau haul - y math sy'n cael ei ddefnyddio fel bwyd adar. Dylid rhoi'r rhain i'w socian mewn dŵr am 8 awr cyn eu gosod ar wyneb o bridd. Y dail sy'n cael ei fwyta ac nid yr hedyn caled.

Ffenoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan fod presenoldeb y fantell dramor yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar fewnfydwyr o dde Ewrop a gogledd Affrica mae ei ffenoleg yn dibynnu felly ar yr amodau tywydd sydd y caniatáu iddyn nhw wneud y daith (yn ogystal â'i ffenoleg yn eu gwledydd genedigol).

Graff (phenogram) yn dangos y misoedd rhwng 1909 a 2016 y cafwyd MANTELL DRAMOR Vanessa cardui yn Nghymru, yn ôl cofnodion a gyrhaeddodd Tywyddiadur prosiect Llên Natur.

Mae'r anterth hafol a welir yn y graff i'w ddisgwyl ond mae cofnodion cynnar iawn (Chwefror) yn dangos nad yw patrwm eu hymddangosiad yn syml.

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell dramor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.
  4. Vanessa cardui, Butterflies of Canada