Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[Delwedd:Quercus petraea - Köhler–s Medizinal-Pflanzen-118.jpg|250px|chwith|bawd|Derwen ddigoes: dail a mes]] |
[[Delwedd:Quercus petraea - Köhler–s Medizinal-Pflanzen-118.jpg|250px|chwith|bawd|Derwen ddigoes: dail a mes]] |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{eginyn planhigyn}} |
|||
[[Categori:Coed]] |
[[Categori:Coed]] |
Fersiwn yn ôl 19:28, 10 Chwefror 2019
Derw | |
---|---|
Derwen goesog Quercus robur | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fagales |
Teulu: | Fagaceae |
Genws: | Quercus L. |
Rhywogaethau | |
mwy na 500 |
- Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.
Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).
Breninbrennau derw
Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Hari II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]
- Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llen gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]
Mytholeg a chred
Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.