Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso ac ad-drefnu |
|||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Y Chwedlau Brodorol== |
==Y Chwedlau Brodorol== |
||
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. |
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. |
||
Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, |
Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw '''Y Chwedlau Brodorol''' gan ysgolheigion. Eu teitlau yw: |
||
*''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]'' |
*''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]'' |
||
*''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'' |
*''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'' |
Fersiwn yn ôl 23:24, 19 Hydref 2006
Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi (mae cainc yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").
Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair mabynogion (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl Pwyll mewn un o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair Mabinogion ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd y Celtiaid.
Cedwir y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1300 a 1325, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1375 a 1425.
Y Pedair Cainc
Y Chwedlau Brodorol
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw Y Chwedlau Brodorol gan ysgolheigion. Eu teitlau yw:
Gan fod draddodiadau cynnar am y brenin Arthur i'w cael yn Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy, mae'r storïau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion Celtaidd. Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus.
Y Tair Rhamant
Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd sydd i'w cael yn rhannol yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Y Tair Rhamant yw:
- Iarlles y Fynnon (neu Owain)
- Peredur fab Efrawg
- Geraint ac Enid
Hanes Taliesin
Yn ogystal â'r chwedlau hyn mae'r Arglwyddes Guest yn cynnwys wythfed chwedl sydd ddim yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch (nid yw'n arfer ei chynnwys mewn argraffiadau diweddarach chwaith), sef
- Hanes Taliesin (neu Chwedl Taliesin neu Ystorya Taliesin)
Ffilm
Gwnaed y ffilm cartŵn Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.
Gweler hefyd
- Pwyll, Branwen, Manawydan, Llŷr, Math, Mathonwy, Lludd, Llefelys, Culhwch, Olwen, Rhonabwy, Peredur, Geraint ab Erbyn
- Pwyull Pendeuic Dyuet ar Wikisource
- Branwen uerch Lyr ar Wikisource