Neidio i'r cynnwys

Math fab Mathonwy (cymeriad mytholegol)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Mathonwy)
Math fab Mathonwy
Dechrau 4edd gainc y Mabinogi, sy'n cychwyn: Math fab Mathonwy oedd Arglwydd ar Wynedd. A Phryderi fab Pwyll oedd Arglwydd ar un cantref ar hugain yn y dehau. Sef oedd y rhei hynny: Saith Cantref Dyfed. a Saith cantref Morgannwg.
Enghraifft o:duw Celtaidd Edit this on Wikidata
Rhan omytholeg Geltaidd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDyffryn Nantlle Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0lslc edit this on wikidata

Ym mytholeg Gymreig, brenin Gwynedd a oedd yn gorfod gorffwys ei draed mewn arffed morwyn oni bai ei fod yn rhyfela, neu y byddai'n marw, oedd Math fab Mathonwy, hefyd a elwir yn Math ap Mathonwy. Ceir chwedl Math ym mhedwaredd gainc y Mabinogi.[1]

Mae Mathonwy yn gymeriad chwedlonol sy'n rhiant Math fab Mathonwy ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi.

Mae'r elfen gyntaf yn yr enw Mathonwy, sef Math-, yn digwydd yn enw'r mab Mathonwy ac enw Matholwch, un arall o gymeriadau'r Mabinogi, a cheir enghreifftiau gyffelyb yn y Wyddeleg, e.e. Mathgambhain. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod yr enw Cymraeg Canol (a'r cymeriad ei hun) yn tarddu o'r Wyddeleg a thraddodiadau Iwerddon, ond ceir y ffurf Matto(n) yn yr Aleg, iaith Geltaidd Gâl.

Ffigwr annelwig yw Mathonwy. Mae lle i gredu fod Mathonwy yn gymeriad benywaidd ac yn fam i Fath yn hytrach na'i dad ac felly mae Mathonwy yn etifeddu teyrnas Gwynedd trwy ei fam. Yn yr un modd mae Gwydion yn fab i'r dduwies Dôn. Yn y Pedair Cainc nid yw Mathonwy yn cymryd unrhyw ran uniongyrchol yn y stori ond yn aros yn y cefndir.

Ceir y cyfeiriad cynharaf at Fathonwy sydd ar glawr mewn cerdd a briodir i Daliesin yn Llyfr Taliesin:

Odit a'e gwypwy,
Hutlath Vathonwy,
yg koet pan tyfwy.

Gellid esbonio'r cyfeiriad at hudlath Mathonwy fel adlais o'r chwedl yn y Pedair Cainc, lle mae Math yn ddewin gyda hudlath, ond mae'n bosibl fod Mathonwy yn ddewin hefyd.

Fel arall mae'r cyfeiriadau eraill at Fathonwy yn digwydd yn enw'r mab yn unig.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, arg. newydd 1991)
  • W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy (Caerdydd, 1928)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Math". Timeless Myths. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-21. Cyrchwyd 5 Hydref 2021.