Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g, 14eg ganrif14g, 13eg ganrif13g, 6ed ganrif6g using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 5: Llinell 5:
Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i [[Oes y Seintiau yng Nghymru|oes y saint Celtaidd cynnar]] pan sefydlwyd '[[clas]]' (cell neu fynachlog feudwyol) gan [[Teulyddog]] Sant, efallai yn y [[6g]]. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r dwyrain o'r hen [[Tref Rufeinig|dref Rufeinig]] [[Maridunum]] ar lan ddwyreiniol [[afon Tywy]] y codwyd yr [[eglwys]] gynharaf. Erbyn [[1100]] roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i [[Ioan|Ieuan Efengylwr]]; eglwys [[plwyf]] Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i abaty ''[[Abaty Battle]]'' gan y brenin [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I o Loegr]] a daeth yn eiddo i [[Urdd Sant Bened]] am rai blynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr [[Bernard, Esgob Tyddewi|Esgob Bernard]] o [[Tyddewi|Dyddewi]] yn [[1125]] a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y [[priordy]] (nid oedd hynny'n wir am bob priordy [[Normaniaid|Normanaidd]] yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifennwr anhysbys a oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref.

Yn [[1291]] roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir ag oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn [[1336]] roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech [[canon]] yn byw yno yn [[1379]]. Erbyn diwedd y [[14g]] roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Mae'n debygol fod y bardd [[Lewys Glyn Cothi]] wedi gwasanaethu yn y priordy a derbyn addysg yno. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth [[Owain Glyndŵr]] dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan [[1536]]; pan gafodd ei [[Diddymu'r mynachlogydd|ddiddymu]] roedd [[prior]] ac wyth canon yn byw yno gyda tua 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.
Yn [[1291]] roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir ag oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn [[1336]] roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech [[canon]] yn byw yno yn [[1379]]. Erbyn diwedd y [[14g]] roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Mae'n debygol fod y bardd [[Lewys Glyn Cothi]] wedi gwasanaethu yn y priordy a derbyn addysg yno. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth [[Owain Glyndŵr]] dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan [[1536]]; pan gafodd ei [[Diddymu'r mynachlogydd|ddiddymu]] roedd [[prior]] ac wyth canon yn byw yno gydag oddeutu 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.

== Yr Adeiladau ==
== Yr Adeiladau ==

Fersiwn yn ôl 08:38, 2 Awst 2018

Priordy yn Nghaerfyrddin a sefydlwyd yn Oes y Seintiau ac a ddaeth yn ddiweddarach i berthyn i Urdd yr Awstiniaid. Nid yw'n sefyll heddiw. Yno yn y 13g yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf.

Hanes

Eglwys Caerfyrddin, ar safle'r priordy efallai.

Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i oes y saint Celtaidd cynnar pan sefydlwyd 'clas' (cell neu fynachlog feudwyol) gan Teulyddog Sant, efallai yn y 6g. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r dwyrain o'r hen dref Rufeinig Maridunum ar lan ddwyreiniol afon Tywy y codwyd yr eglwys gynharaf. Erbyn 1100 roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i Ieuan Efengylwr; eglwys plwyf Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i abaty Abaty Battle gan y brenin Harri I o Loegr a daeth yn eiddo i Urdd Sant Bened am rai blynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr Esgob Bernard o Dyddewi yn 1125 a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y priordy (nid oedd hynny'n wir am bob priordy Normanaidd yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifennwr anhysbys a oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref.

Yn 1291 roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir ag oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn 1336 roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech canon yn byw yno yn 1379. Erbyn diwedd y 14g roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Mae'n debygol fod y bardd Lewys Glyn Cothi wedi gwasanaethu yn y priordy a derbyn addysg yno. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyndŵr dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan 1536; pan gafodd ei ddiddymu roedd prior ac wyth canon yn byw yno gydag oddeutu 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.

Yr Adeiladau

Diflanodd bron y cyfan o'r adeiladau olaf oedd yn dal i sefyll pan gododd Arglwydd Cawdor waith plwm ar y safle yn y 18g. Cloddiwyd y safle yn 1979 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a darganuwyd safle rhai o'r adeiladau, gan gynnwys hwnnw'r eglwys, a oedd â hyd o 55m, o leiaf. Roedd yr adeiladau i gyd yn gorwedd y tu mewn i lan sylweddol gyda phorth yn y gogledd-orllewin; mae'r porth yn dal i sefyll heddiw ar Ffordd Y Priordy. Yn anffodus nid yw'n bosibl lleoli'r scriptorium lle, mae'n debyg, yr ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin.

Llyfryddiaeth

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992). ISBN 0715407120
  • Alwyn C. Evans, "St John's Priory, Carmarthen" (Archaeolegia Cambriensis, 1876).
  • Terence James, "Excavations at the Augustinian Priory of St John and St Teulyddog, Carmarthen, 1979 (Archaeolegia Cambriensis, 1985).