Teulyddog
Gwedd
| Teulyddog | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 g |
| Man preswyl | Caerfyrddin |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Sant Cymreig oedd Teulyddog (Lladin: Toulidauc neu Thelaucus, fl. 6g). Yn ôl traddodiad yr oedd yn ddisgybl i Sant Dyfrig.[1]
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Dywedir y ffoes Teulyddog gyda Dyfrig i Lydaw i ddianc rhag y Pla Melyn. Credir i Deulyddog sefydlu clas Llandeulyddog o fewn muriau'r hen dref Rufeinig Maridunum (safle Caerfyrddin heddiw). Yn ddiweddarach rhoddwyd tir y clas i Briordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog lle ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, yn ôl pob tebyg.[1]