Afon Ceirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:


[[Categori:Afonydd Conwy|Ceirw]]
[[Categori:Afonydd Conwy|Ceirw]]
[[Categori:Afonydd Cymru|Ceirw]]
[[Categori:Afonydd Sir Ddinbych|Ceirw]]
[[Categori:Afonydd Sir Ddinbych|Ceirw]]
[[Categori:Cerrigydrudion]]
[[Categori:Cerrigydrudion]]

Fersiwn yn ôl 11:02, 18 Ionawr 2018

Afon Ceirw ger ei tharddle yn llifo i gyfeiriad Cerrig-y-drudion.

Mae Afon Ceirw yn afon yng ngogledd Cymru. Ei hyd yw tua 14 milltir.[1]

Llwybr yr afon

Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i'r afon Alwen ger Corwen.[1]

Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Map OS Landranger 116.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: